Dyn yn marw mewn gwrthdrawiad wrth helpu ei fab

  • Cyhoeddwyd
Darran Peter FellowesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Darran Fellowes yn briod ac yn dad i ddau fab

Mae cwest wedi clywed sut y cafodd dyn 48 oed ei daro gan gar Ddydd Nadolig wrth helpu ei fab wedi i'w gar yntau dorri i lawr ar ffordd brysur.

Roedd Darran Peter Fellowes, o Sgiwen, yn cerdded ar lôn ogleddol Ffordd Blaenau'r Cymoedd ger Castell-nedd tua 17:00 pan wnaeth car Toyota Aygo ei daro, a tharo VW Beetle coch.

Clywodd y gwrandawiad bod Mr Fellowes wedi marw yn y fan a'r lle, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys.

Mae menyw 35 oed wedi cael ei harestio mewn cysylltiad â'r gwrthdrawiad.

Dywedodd y Cwnstabl Alun Efstathiou wrth y cwest: "Roedd Mr Fellowes yna i helpu ei fab, oedd wedi torri lawr ger ffordd ymadael Aberdulais yr A465 - lleoliad y digwyddiad."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger ffordd ymadael Aberdulais yr A465, sef Ffordd Blaenau'r Cymoedd

Roedd Mr Fellowes yn rheolwr cynnal a chadw gyda chwmni adeiladu, yn briod ac yn dad i ddau.

Mewn datganiad wedi'r farwolaeth, dywedodd ei deulu ei fod wrth ei fodd yn helpu ei feibion i drwsio'u cerbydau a'i fod "yn byw bywyd i'r eithaf".

Yn ôl Heddlu De Cymru, cafodd menyw ei harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac mae wedi ei rhyddhau dan ymchwiliad.

Cafodd y cwest ei ohirio am chwe mis wrth i ymholiad yr heddlu barhau.

Mae ditectifs yn apelio am wybodaeth a lluniau dash cam all helpu'r ymchwiliad.