Argyfwng hinsawdd: 'Angen gweithredu'n gynt i newid gwariant'
- Cyhoeddwyd
Ni ddylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi mewn ysbytai, ysgolion, tai na thrafnidiaeth sydd ddim yn garbon niwtral heb fod angen, yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dywedodd Sophie Howe bod angen i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach a gweithredu'n gynt i newid y ffordd mae'n gwario arian yn sgil ei chyhoeddiad bod argyfwng hinsawdd
Mae Ms Howe yn canmol cyllideb ddiweddaraf Cymru am fuddsoddi £140m ar isadeiledd i gerbydau trydanol, a £15m i annog "teithio actif" fel cerdded a seiclo.
Ond mae hi'n beirniadu'r llywodraeth am fod 64% o'i chyllideb ar drafnidiaeth wedi'i glustnodi ar gyfer adeiladu ffyrdd, gan ychwanegu nad yw hi'n glir sut y mae ei rhaglen Buddsoddi yn y Seilwaith yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod ganddi "fesurau uchelgeisiol" i gefnogi'r strategaeth i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
'Tanseilio ymdrechion'
Mae'r comisiynydd yn dadlau, gan nad oes asesiad cynhwysfawr o effaith ehangach gwariant Llywodraeth Cymru, y gallai rhai prosiectau carbon uchel fod yn tanseilio ymdrechion eraill i amddiffyn yr amgylchedd.
Dywedodd Ms Howe y dylai'r llywodraeth gyhoeddi "cyfrif effaith carbon" ar y cyd â'r gyllideb ac y dylid dadansoddi pob gwariant er mwyn asesu a yw'n cyd-fynd â symud at ddyfodol carbon isel.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n falch o'r mesurau uchelgeisiol ry'n ni'n eu cymryd yn y gyllideb i gefnogi ein strategaeth ar draws y llywodraeth i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
"Mae hon yn gyllideb i helpu amddiffyn dyfodol ein planed, sy'n buddsoddi yn y meysydd ble mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym y gallai gael yr effaith fwyaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2019