Cymru i herio Japan a Seland Newydd ar eu taith haf

  • Cyhoeddwyd
Ryan Crotty yn chwarae i Seland Newydd yn erbyn CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd tîm rygbi Cymru yn herio Japan yn ogystal â Seland Newydd ar eu taith haf yn 2020.

Fe fydd carfan Wayne Pivac yn teithio i Japan yn gyntaf ar gyfer gêm ar 27 Mehefin, gyda'r lleoliad eto i gael ei gadarnhau.

Yna fe fyddan nhw'n herio Seland Newydd mewn dwy gêm brawf yn Auckland ar 4 Gorffennaf a Wellington ar 11 Gorffennaf.

Mae'n golygu y bydd Pivac, a olynodd Warren Gatland fel y prif hyfforddwr llynedd, yn dychwelyd i'w famwlad fel rhan o'r daith.

Collodd Cymru yn erbyn Seland Newydd llynedd yng ngêm trydydd safle Cwpan Rygbi'r Byd, gafodd ei chynnal yn Japan.

Dydy'r crysau cochion erioed wedi ennill gêm oddi cartref yn Seland Newydd, a heb drechu'r Crysau Duon ers 1953.

Mae Cymru wedi ennill naw o'u 10 gêm yn erbyn Japan - gan golli am yr unig dro ar eu taith ddiwethaf i'r wlad yn 2013.