Cau ffordd brysur yn Aberystwyth dros nos

  • Cyhoeddwyd
arwydd ffordd ar gau

Bydd un o brif ffyrdd Aberystwyth ar gau bob nos yr wythnos hon ar gyfer gwaith cynnal a chadw.

Bydd ffordd yr A487 ar Riw Penglais yn cau am 19:00 ac yn ailagor am 06:00 y bore canlynol gan ddechrau nos Lun (13 Ionawr) tan nos Wener (17 Ionawr).

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y gwaith yn cynnwys rhoi wyneb newydd ar y ffordd a thrwsio system ddraenio.

Ychwanegodd bod yn rhaid cau'r ffordd am y byddai'n anodd rheoli llif y traffig mewn un rhan gul o'r A487.

Bydd gwaith pellach yn digwydd dros nos ar y ffordd wedi'r wythnos hon ond yr adeg honno ni fydd rhaid cau'r ffordd - yn hytrach bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu cyflwyno.