Cynllun £46m i wella'r A487 ym Mhont Dyfi ger Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Argraffiadau artist o gynlluniau i wella'r A487 ym Mhont DyfiFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Argraffiadau artist o gynlluniau i wella'r A487 ym Mhont Dyfi

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cynllun £46m i wella'r A487 ym Mhont Dyfi i'r gogledd o Fachynlleth yn mynd yn ei flaen.

Ers blynyddoedd mae 'na alw wedi bod i wella'r ffordd gan nad ydy'r bont gul dros y Ddyfi wedi ei chynllunio i ddelio gyda thrafnidiaeth mor drwm.

Mae'r ffordd hefyd ar gau ar yr adegau pan fydd yr afon wedi gorlifo ei glannau.

Cafodd y bont garreg bresennol ei chodi yn y 19eg ganrif ond does yna ddim lle i gerddwyr deithio drosti.

Pan mae 'na lifogydd a'r ffordd ar gau, mae hi'n anodd i'r gymuned gyrraedd apwyntiadau meddygol, ysgolion a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.

'Gwych i bobl leol a thwristiaeth'

Wrth wneud cyhoeddiad ynglŷn â'r cynllun, dywedodd Ken Skates, Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, fod yr A487 yn "ffordd allweddol rhwng gogledd a de Cymru".

Bydd y datblygiad newydd yn golygu:

  • codi traffont dros y tir sydd dan ddŵr pan mae'r afon yn gorlifo ei glannau;

  • codi pont dros Afon Dyfi tua 480m o'r bont bresennol;

  • mesurau i reoli'r traffig a gwella draeniad ar yr A493 i'r gogledd o'r bont er mwyn gwarchod y bythynnod sydd yno;

  • mesurau hefyd i ddiogelu Parc Eco Dyfi rhag llifogydd.

Bydd y bont bresennol yn aros a bydd llwybrau cerdded a seiclo yn cael eu creu.

"Mae hi'n glir i mi fod angen gweithredu i wella'r rhan hon o'r A487 fel bod yna ffordd ddiogel a dibynadwy i gysylltu'r cymunedau o amgylch Machynlleth, gan gynnwys ei gwneud hi'n haws i gyrraedd gwasanaethau bysus a thrên yn y dref," meddai Mr Skates.

"Mae twristiaeth yn bwysig i ddyffryn Dyfi ac fe fydd tynnu'r traffig trwm oddi ar yr hen bont garreg yn caniatáu mwy o gyfleoedd i gerdded a seiclo.

"Bydd hyn yn wych nid yn unig i bobl leol ond i ymwelwyr hefyd."

Bydd y camau nesaf yn cynnwys cyflwyno cynlluniau mwy manwl ac ymchwiliadau pellach i'r tir cyfagos.

Fe allai'r gwaith adeiladau ddechrau yn yr haf yn amodol ar y broses statudol, a'r gobaith yw cwblhau'r prosiect erbyn haf 2022.