Darganfod corff ger gorsaf bad achub Casllwchwr, Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf CasllwchwrFfynhonnell y llun, Google

Mae corff dyn wedi ei ddarganfod mewn cerbyd oedd wedi parcio ger gorsaf bad achub.

Cafodd swyddogion o Heddlu De Cymru eu galw i'r lleoliad yng Nghasllwchwr ger Abertawe ychydig wedi 13:40 ddydd Sul, yn dilyn pryderon am y cerbyd campervan oedd wedi bod yno ers tro.

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y darganfyddiad ac nid yw'r heddlu'n trin y farwolaeth fel un amheus.