Cyhoeddi enw dyn 52 oed fu farw mewn tân ym Mae Colwyn

  • Cyhoeddwyd
Criw tân yn ymateb i'r achos yn Ffordd Greenfield, Bae Colwyn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r eiddo toc wedi 10:15 ddydd Mawrth, 7 Ionawr

Mae enw'r dyn fu farw mewn tân ym Mae Colwyn wythnos yn ôl wedi cael ei gyhoeddi wrth i'r cwest i'w farwolaeth gael ei agor a'i ohirio.

Roedd Christopher Andrew Gaskill yn 52 oed.

Daeth ymladdwyr tân o hyd i'w gorff mewn fflat yn Ffordd Greenfield ar ôl i'r gwasanaethau brys gael eu galw yno ar 7 Ionawr.

Wrth agor y cwest yn Rhuthun ddydd Mawrth, dywedodd Crwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, John Gittins mai'r gred yw mai sigarét oedd wedi achosi'r tân.

Clywodd y gwrandawiad hefyd bod y corff wedi ei ddarganfod mewn ystafell fyw ar lawr cyntaf yr eiddo, a bod Mr Gaskill wedi ei adnabod trwy ddogfennau a thrwy ei datŵs.

Bydd profion tocsicoleg yn cael eu cynnal cyn ailagor y cwest, ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.