Pryder am les plant sy'n cerdded i'r ysgol cyn y wawr
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni yng Nghwm Gwendraeth yn dweud eu bod yn poeni am ddiogelwch eu plant, sydd bellach yn cerdded bron i dair milltir i'r ysgol ar ôl i wasanaeth bws ddod i ben.
Mae rhai o'r disgyblion a'u rhieni yn gorfod dechrau ar eu taith cyn iddi wawrio er mwyn cerdded o'r Tymbl i ysgol Maes y Gwendraeth yng Nghefneithin.
Roedd 'na fws y llynedd ond dydy hwnnw ddim yn rhedeg bellach, ac mae Cyngor Sir Gâr yn galw ar y llywodraeth i edrych o'r newydd ar y polisi cludo plant i'r ysgol.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu mai polisi newydd gan Lywodraeth y DU sydd ar fai.
Y rheswm bod y sefyllfa wedi codi ydy newid yn y gyfraith - ers dechrau'r flwyddyn mae'n rhaid i'r holl wasanaethau bysiau masnachol allu cynnig lle i bobl anabl.
Lle nad yw hynny'n bosib, a dydy bysiau ddim yn cael eu haddasu, mae gwasanaethau yn cael eu tynnu 'nôl.
Mae disgyblion ag anableddau eisoes yn cael cludiant am ddim, fel y mae disgyblion sy'n byw dros dair milltir o ysgol uwchradd, neu ddwy filltir o ysgol gynradd.
O ran cyflwyno'r rheolau newydd - mae modd gohirio yn rhai achosion, ond nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ydy hynny.
Dywedodd Tina Thomas, sy'n fam i ddau ddisgybl yn Ysgol Maes y Gwendraeth: "Mae rhyw 2.5 i 2.7 milltir - does dim golau 'na o gwbl, mae'n dywyll a dyw e ddim yn saff."
Ychwanegodd un o'r disgyblion sy'n gorfod gwneud y daith, Ffion: "Sa'i moyn ei wneud e - ni wedi cael y bws 'ma ers cyn i fi fod ym mlwyddyn saith.
"Dydw i ddim yn deall pam maen nhw wedi ei gymryd e oddi wrthon ni."
Dywedodd disgybl arall, Rhys: "Os chi'n cerdded tair milltir i'r ysgol, mae pawb wedi blino ar ôl codi lan am 06:30 - so fe'n iawn."
'Dim rôl gan Lywodraeth Cymru'
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Lee Waters nad cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ydy'r rheolau newydd sydd wedi dod i rym.
"Cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan yw hwn - does dim rôl gan Lywodraeth Cymru yn y ddeddfwriaeth," meddai.
Mae Cyngor Sir Gâr hefyd yn pwysleisio nad eu penderfyniad nhw ydy hyn, ac yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ailedrych ar y polisi sy'n dweud bod rhaid byw tair milltir o'r ysgol er mwyn cael cludiant am ddim.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans: "Efallai y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar y rheol tair milltir i blant gerdded i'r ysgol.
"Mae plentyn 11 oed yn ifanc i gerdded tair milltir os nad oes modd arall iddyn nhw fynd i'r ysgol."
Mae'r cyngor yn dweud y bydd yn dal i gynnig seddi gwag ar fysiau eraill lle bo'r rheiny ar gael.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2019