Beirniadu diffyg cyfraniad cymunedol cynllun hydro
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n byw ger cynllun hydro yn rhan uchaf Dyffryn Tywi wedi dweud na fydd y gymuned leol yn elwa'n ariannol er bod amcangyfrif y bydd y cynllun yn cynhyrchu incwm blynyddol o dros £1m pan fydd wedi'i gwblhau.
Mae'r cynllun - sy'n golygu codi gorsaf bŵer newydd ger Llyn Brianne - ar waith ar hyn o bryd.
Bydd cronfa newydd yn trosglwyddo dŵr o Afon Tywi i'w ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu trydan.
Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y cynllun - H20 Power Towy Ltd - â'i bencadlys yn Hertfordshire, ac mae'r gwaith adeiladu yn cael ei wneud gan gwmni o adeiladwyr o'r Weriniaeth Tsiec.
Wrth ymateb i bryderon lleol, dywedodd y cwmni nad oes sail i'r honiadau na fydd y gymuned yn elwa o'r cynllun.
'Cynnig sarhaus'
Yn ôl ymgyrchwyr lleol, mae'r cwmni wedi cynnig rhoi £1,000 yn unig i'r gymuned leol, gyda rhai amodau.
Mae'r Dr Roger Slade, aelod o Gyngor Cymuned Llanfair-ar-y-Bryn, wedi disgrifio'r cynnig fel un "sarhaus".
Yn ôl Emyr Jones, cadeirydd y cyngor cymuned, dyw pobl yr ardal ddim yn gweld unrhyw fudd o'r cynllun.
"Mae yna lanast ofnadwy yna, ac fel cymuned leol, ni'n gwybod cyn lleied am beth sydd yn mynd ymlaen yna," meddai.
"S'dim gwaith lleol wedi dod o hyn - pobl o dramor sy'n gweithio yna - a does dim byd wedi dod 'nôl yn lleol. Mae'r elw i gyd yn mynd mas o'r ardal."
Dywedodd Mr Jones wrth BBC Cymru bod y cynghorwyr cymuned lleol yn teimlo'n rhwystredig iawn.
"Ni'n teimlo'n hollol useless, a dim pŵer i ddylanwadu ar unrhyw benderfyniad," meddai.
Fe fydd y cynllun yn cynhyrchu 1.8 megawat o drydan y flwyddyn, gyda'r tariff cyflenwi trydan yn darparu incwm o £600,000.
Bydd y trydan yn cael ei werthu am bris dan warant am gyfnod o 20 mlynedd, fydd yn cynhyrchu incwm blynyddol o dros £1m.
Ar hyn o bryd mae trydan hydro electrig yn cyfrannu rhyw 4% o'r cyflenwad trydan sydd yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy yng Nghymru, ond mae'r sector yn tyfu.
Herio criw ffilmio
Yn ôl ymgyrchwyr, mae yna gynlluniau eraill ble mae cwmnïau yn talu 4% o refeniw i dirfeddianwyr a 2% i'r gymuned leol.
Yn Ystradffin, byddai hynny'n cyfateb i £20,000 y flwyddyn, ac yn ôl pobl yr ardal byddai hynny'n gyfraniad mawr i gefnogi cynlluniau mewn ardal ddifreintiedig.
Cafodd criw Newyddion BBC Cymru ei herio gan weithwyr wrth ffilmio tu allan i'r safle.
Cafodd y criw eu dilyn mewn cerbyd, ac fe honnwyd nad oedd hawl ffilmio'r safle, er bod y criw ar dir cyhoeddus.
Mae pobl leol yn dweud bod yna gefnogaeth i gynlluniau o'r math, ond mae yna deimladau cymysg am y cynllun hwn yn benodol.
Dywedodd Catrin Davies o bentref Rhandirmwyn: "Fi'n gallu gweld bod y climate yn newid fan hyn a fi'n credu yn y gornel fach hon o Sir Gâr, os ni'n medru gwneud rhywbeth mae hynny'n fendigedig.
"Fi'n falch i'r bobl sydd yn bia'r tir ond mae'r tirwedd ei hunan yn perthyn i ni, a fi wedi gweld y tir yn cael ei godi a'i newid gyda'r gronfa ddŵr.
"Mae'n teimlo fel tase'r un peth yn digwydd 'to, bod y tir yn cael ei rwygo lan o flaen fy llygaid i.
"Mae'r scheme hyn yn rhywbeth mawr iawn a falle dylen ni gael rhyw fath o benefit - does neb o'r bobl leol â gwaith yna."
'Ffeithiol anghywir'
Dywedodd Ewan Campbell Lendrum, rheolwr gyfarwyddwr H20 Power Towy Ltd mewn datganiad: "Mae maint y cynllun fel y mae yr un maint a'r cais gafodd ei gymeradwyo yn y broses gynllunio, ac unwaith fe fydd wedi ei gwblhau fe fydd y mwyafrif wedi ei gladdu.
"Bu oedi i'r cynllun gan fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymryd yn hirach na'r disgwyl i wneud penderfyniad ar y cais cynllunio, sydd yn unol â rheolau Llywodraeth Cymru ac nid ydym wedi gallu dal i fyny gyda'r amser a gollwyd.
"Mae'r awgrym ein bod ond am gyfrannu £1000 y flwyddyn yn ffeithiol anghywir, fel yr honiad nad oes swyddi lleol, ac rydym yn hyderus fod mwyafrif ein cymdogion yn gefnogol i'r cynllun."