Toriadau camerâu cylch cyfyng yn 'gwbl anghyfrifol'
- Cyhoeddwyd
Fe allai lleihad yn nifer y camerâu cylch cyfyng sy'n cael eu hariannu gan gynghorau lleol arwain at gynnydd aruthrol ym mhrysurdeb adrannau brys ysbytai, yn ôl llawfeddyg sydd hefyd yn arbenigwr ym maes troseddu.
Daw sylwadau'r Athro Jonathan Shepherd wrth i gynghorau Castell-nedd Port Talbot a Chaerffili ystyried gwneud arbedion drwy leihau nifer eu camerâu cylch cyfyng.
Cynghorau sir yng Nghymru sy'n gyfrifol am gamerâu CCTV cyhoeddus gan amlaf, sy'n cael eu defnyddio i atal troseddwyr a delio gyda phroblemau fel parcio, traffig ac ysbwriel.
Dywed y cynghorau eu bod yn wynebu pwysau ariannol sylweddol.
Mae Cyngor Caerffili yn ystyried diffodd 26 o'u camerâu.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae'r cyngor yn trafod lleihau eu gwariant 50% erbyn 2023, gyda'r nod hefyd o geisio gwneud i'r gwasanaeth ddenu mwy o incwm.
Yn y cyfamser, mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi penderfynu gohirio penderfyniad ar ddiffodd 92 o gamerâu ar ôl y newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyllideb awdurdodau lleol.
Er hynny, bydd y cyngor yn trafod cynigion eraill sy'n cynnwys lleihau'r gwariant ar gamerâu o £370,000 yn 2021/22.
Yn ôl Barry Hughes, prif swyddog Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru, mae camerâu cylch cyfyng cyhoeddus a phreifat yn adnoddau "gwerthfawr" wrth wneud penderfyniad a oes digon o dystiolaeth i gyhuddo.
Yn ôl yn 2017, meddai, dim ond bodolaeth camerâu cylch cyfyng mewn gorsaf bws ym Mhen-y-bont ar Ogwr wnaeth ddal dyn wnaeth dreisio menyw oedd yn cysgu.
Fe wnaeth swyddogion oedd yn monitro'r camerâu weld y drosedd a chysylltu â'r heddlu.
Yn 2015 fe wnaeth tystiolaeth camerâu recordio car yn taro yn erbyn cysgodfa i ysmygwyr mewn clwb nos ym Mhorthcawl, gan anafu chwech o bobl.
Dywedodd yr Athro Shepherd, sy'n gyfarwyddwr ymchwil Grŵp Ymchwilio Trais ym Mhrifysgol Caerdydd, fod presenoldeb camerâu yng nghanol trefi yn galluogi i'r heddlu gyrraedd ffrwgwd cyn i bethau waethygu.
"Mae'n gwbl anghyfrifol i awdurdod lleol ddiffodd camerâu, yn hytrach fe ddylai gofalu am ddiogelwch y cyhoedd fod yn flaenoriaeth," meddai.
Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, yn hytrach na thoriadau, mae'r llu yn cynnal trafodaethau gyda chynghorau ynglŷn â sut i wella ansawdd y fideo a gwneud gwell defnydd ohonynt.
"Mewn rhai cynghorau, mae'r offer yn hynod o hen ffasiwn, dyw'r ansawdd ddim digon da ar gyfer tystiolaeth," meddai.
"Rwy'n ffyddiog na fyddwn yn gweld CCTV yn diflannu'n llwyr."
Yn ôl Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, roedd yn "bechod mawr fod cynghorau mewn sefyllfa lle'r oedd rhaid ystyried toriadau".
Dywedodd Cyngor Caerffili fod yr awdurdod yn monitro 153 o gamerâu ar hyn o bryd, ond eu bod yn ystyried diffodd rhai "oherwydd pwysau ariannol sylweddol".
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot roedd "gwaith eisoes wedi ei wneud i ddatblygu'r model presennol o weithredu camerâu cylch cyfyng mewn modd fyddai'n sicrhau incwm newydd, a hefyd er mwyn gallu parhau ac o bosib gwella'r gwasanaeth yn y blynyddoedd i ddod".
"Nid oes yna unrhyw gynigon i wneud toriadau pellach," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2019
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019