30 mis o garchar i gyn-hyfforddwr dringo am droseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Robert PughFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robert Pugh yn parhau i wadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn, yn ôl ei gyfreithiwr

Mae cyn-hyfforddwr dringo wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a hanner am droseddau rhyw hanesyddol.

Cafwyd Robert Pugh, 75 o Gaerdydd, yn euog gan reithgor fis diwethaf o 10 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar dri bachgen yn yr 1980au a'r 90au.

Fe ddigwyddodd hynny yn ystod cyrsiau a gafodd eu trefnu trwy Ganolfan Storey Arms ym Mannau Brycheiniog.

Roedd Pugh yn rhedeg y ganolfan awyr agored rhwng 1981 nes canol y 90au.

Yn ystod yr achos fis diwethaf roedd y barnwr wedi rhoi gorchymyn i'r rheithgor ganfod Pugh yn ddieuog o dri chyhuddiad pellach gan nad oedd digon o dystiolaeth.

Mewn datganiadau gafodd eu darllen yn y llys ddydd Gwener, dywedodd y dioddefwyr eu bod wedi troi at alcohol oherwydd y cam-drin, a'u bod yn dioddef o iselder hyd heddiw.

Cynnig cyrsiau ychwanegol

Roedd y ganolfan yn cael ei ddefnyddio'n aml gan blant ysgol o ardal Caerdydd.

Roedd rhai o'r plant mwyaf talentog yn cael eu gwahodd yn ôl ar gyrsiau ychwanegol - dyma sut oedd Pugh yn dewis ei ddioddefwyr.

Fe gafodd tri bachgen eu hymosod arnyn nhw'n anweddus ar wahanol adegau gan Pugh tra ar dripiau campio a thripiau tramor.

Ffynhonnell y llun, Geograph/Jaggery
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Pugh yn rhedeg Canolfan Storey Arms ym Mannau Brycheiniog rhwng 1981 nes canol y 90au

Roedd y bechgyn yn cael cynnig cyrsiau ychwanegol ac yn derbyn anrhegion fel esgidiau cerdded gan Pugh.

Roedd yn rhoi alcohol iddyn nhw ac roedden nhw'n cael y dewis i gysgu mewn ystafelloedd sengl yn hytrach nag ystafelloedd mwy.

Fe ddisgrifiodd ddau fachgen eu bod wedi gorfod rhannu pabell gyda Pugh tra ar drip campio.

Roedd Pugh wedi ymosod arnyn nhw drwy eu cyffwrdd yn anweddus.

Rhannu ystafell wely

Dywedodd y trydydd bachgen ei fod wedi gorfod rhannu ystafell wely gyda Pugh ar drip sgïo.

Ychwanegodd y bachgen fod Pugh wedi llwyddo i'w feddwi a'i fod wedi ceisio ymosod arno'n rhywiol mewn car.

Dyma oedd y trydydd tro i Pugh wynebu achos sy'n ymwneud â chyhuddiadau o ymosod yn anweddus.

Cafodd yr achos cyntaf yn 2018 ei atal am resymau cyfreithiol, a bu achos arall yn Awst 2019 ble nad oedd rheithgor yn gallu dod i benderfyniad.

Wrth ddedfrydu Pugh i 30 mis o garchar ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr Fitton fod gan Pugh "ddiddordeb rhywiol a chwant am fechgyn a dynion ifanc".

"Rydych chi wedi niweidio tri dyn ifanc mewn ffyrdd y cafodd eu disgrifio ganddyn nhw yn y llys.

"Mae dau ohonyn nhw wedi cael niwed sylweddol," meddai.