Cyn-hyfforddwr dringo'n euog o gam-drin tri bachgen

  • Cyhoeddwyd
Robert PughFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Robert Pugh yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

Mae rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd wedi cael cyn-hyfforddwr dringo'n euog o droseddau rhyw hanesyddol.

Roedd Robert Pugh, 75 o Gaerdydd, yn gwadu 10 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar dri bachgen yn y 1980au a'r 90au yn ystod cyrsiau a gafodd eu trefnu trwy Ganolfan Storey Arms ym Mannau Brycheiniog.

Cafodd y rheithgor orchymyn gan y barnwr i ganfod Pugh yn ddieuog o dri chyhuddiad pellach gan nad oedd digon o dystiolaeth.

Roedd Pugh yn rhedeg y ganolfan awyr agored rhwng 1981 nes canol y ddegawd ddiwethaf.

Dewis ei ddioddefwyr

Roedd y ganolfan yn cael ei ddefnyddio'n aml gan blant ysgol o ardal Caerdydd.

Roedd rhai o'r plant mwyaf talentog yn cael eu gwahodd yn ôl ar gyrsiau ychwanegol - dyma sut oedd Pugh yn dewis ei ddioddefwyr.

Fe gafodd tri bachgen eu hymosod arnynt yn anweddus ar wahanol adegau gan Pugh tra ar dripiau campio a thripiau tramor.

Dywedodd yr erlyniad: "Dan yr arwyneb parchus, roedd rhywbeth yn ei yrru i gyffwrdd y bechgyn yma."

Roedd y bechgyn yma'n cael cynnig cyrsiau ychwanegol ac yn derbyn anrhegion fel esgidiau cerdded gan Pugh.

Ffynhonnell y llun, Geograph/Jaggery
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Robert Pugh ei fod yn dod i 'nabod pobl ifanc oedd yn ymweld â Chanolfan Storey Arms yn aml

Roedd yn rhoi alcohol iddyn nhw ac roedden nhw'n cael y dewis i gysgu mewn ystafelloedd sengl yn hytrach nag ystafelloedd mwy.

Fe ddisgrifiodd ddau fachgen eu bod wedi gorfod rhannu pabell gyda Pugh tra ar drip campio.

Roedd Pugh wedi ymosod arnyn nhw drwy eu cyffwrdd yn anweddus.

Dywedodd y trydydd bachgen ei fod wedi gorfod rhannu ystafell wely gyda Pugh ar drip sgïo.

Ychwanegodd y bachgen fod Pugh wedi llwyddo i'w feddwi a'i fod wedi ceisio ymosod arno'n rhywiol mewn car.

Trydydd achos

Dyma'r trydydd tro i Pugh wynebu achos sy'n ymwneud â chyhuddiadau o ymosod yn anweddus.

Cafodd yr achos cyntaf yn 2018 ei atal am resymau cyfreithiol.

Yn dilyn yr achos fe wnaeth ail berson gamu ymlaen gyda chwyn, a bu achos arall yn Awst 2019 ble nad oedd rheithgor yn gallu dod i benderfyniad.

Yn dilyn yr achos yma daeth y trydydd person ymlaen.

Mae Pugh wedi ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 17 Ionawr.