Dyn ar goll yn Afon Hafren yn Y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd
AmbiwlansFfynhonnell y llun, MyNewtown.co.uk/Phil Blagg
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn chwilio am y dyn yn yr ardal

Mae'r gwasanaethau brys yn chwilio am ddyn aeth ar goll yn Afon Hafren.

Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed Powys eu galw wedi i ddyn fynd i mewn i'r dŵr yn Broad Street, Y Drenewydd am 11:25 ddydd Gwener.

Mae diffoddwyr tân a gweithwyr ambiwlans hefyd yn chwilio ger pont yn Aberbechan, rhyw bedair milltir i ffwrdd.

Mae ffordd y B4389 drwy Aberbechan ar gau ger y gyffordd i ffordd yr A483.

Ffynhonnell y llun, MyNewtown.co.uk/ Phil Blagg
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion y gwasanaethau brys ar bont Aberbechan