Bwrdd Iechyd Cwm Taf: 'Cynnydd ond llawer eto i'w wneud'
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi gwneud "cynnydd da" yn ystod y misoedd diwethaf wrth ddelio â methiannau difrifol yn eu gwasanaethau mamolaeth, er bod "llawer mwy i'w wneud o hyd".
Dyna gasgliad ail adroddiad y panel annibynnol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio gwelliannau.
Dywed y panel eu bod yn "dawel hyderus" y bydd y bwrdd iechyd yn gallu cyflawni gwelliannau tymor hir.
Ond mae yna heriau mawr o hyd - er enghraifft, wrth wella diwylliant y sefydliad ac ymdrin â chwynion sydd wedi cronni - pwyntiau mae'r panel yn eu disgrifio fel "mater o bryder".
Nodir bod angen i gyfraddau genedigaethau Cesaraidd, ac achosion lle mae rhaid ysgogi genedigaethau, leihau os yw Cwm Taf Morgannwg i berfformio cystal â byrddau iechyd eraill.
Nid yw'r bwrdd iechyd wedi cwblhau dwy ran o dair o'r argymhellion eto yn dilyn yr adolygiad annibynnol o'u gofal mamolaeth y gwanwyn diwethaf.
Ond mae cadeirydd y panel annibynnol a benodwyd i yrru gwelliannau, Mick Giannasi, yn dweud bod y camau pwysicaf wedi'u cyflawni, ac o ganlyniad gall teuluoedd fod yn fwy hyderus am ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd.
Mae hyn yn cynnwys delio â phrinder staff ar draws unedau mamolaeth ond nodir bod angen mwy o waith i fynd i'r afael â salwch staff a gorddibyniaeth ar oramser a staff asiantaeth.
Nodir hefyd bod hyfforddiant staff hefyd wedi gwella.
'Gofal diogel ac effeithiol'
Yn ôl y panel mae tystiolaeth arall o gynnydd wrth i arolwg diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) ar ganolfan eni bydwraig Tirion, sydd newydd ei sefydlu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant, nodi bod "gofal yn cael ei ddarparu mewn modd diogel ac effeithiol" ac mewn ffordd "cartrefol mewn amgylchedd hamddenol".
Disgwylir i archwiliad pellach Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) i'r uned famolaeth, dan arweiniad ymgynghorydd yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful, gael ei gyhoeddi cyn bo hir.
Dywedodd Mr Giannassi: "Beth ni'n gweld yw newid go iawn mewn ymddygiad, newid go iawn mewn agweddau.
"Y gwir yw bod y sylwadau sy'n dod gan y menywod yn gwbl wahanol i'r darlun a gafwyd gan y Coleg Brenhinol flwyddyn yn ôl."
Mae'r panel hefyd wedi dechrau adolygu 140 o achosion lle bu pryder ynghylch gofal mamau a babanod rhwng 2016 a 2018.
Mae tîm o arbenigwyr annibynnol gan gynnwys bydwragedd, obstetregwyr, meddygon newyddenedigol ac anesthetyddion wedi'u recriwtio o bob rhan o'r DU i gynnal yr adolygiadau hyn.
Bydd canlyniadau'r adolygiadau yn helpu'r panel i benderfynu faint mwy o achosion sydd angen iddynt edrych arnynt - gan ymestyn mor bell yn ôl â 2010.
Yn dilyn ymrwymiad gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bydd y panel hefyd yn ystyried achosion "hunangyfeiriedig" gan deuluoedd.
Gwrthododd y panel roi amserlen cwblhau'r broeses.
Cefndir
Cafodd gwasanaethau mamolaeth yn ardal Cwm Taf eu rhoi mewn 'mesurau arbennig' fis Ebrill diwethaf.
Daeth hyn yn dilyn ymchwiliad gan ddau goleg brenhinol, a ganfu fod mamau'n wynebu "profiadau trallodus a gofal gwael" yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Dywedwyd bod y gwasanaethau "dan bwysau eithafol", ar ôl ymchwiliad a wnaeth edrych ar 25 o ddigwyddiadau difrifol (yn mynd yn ôl i 2016).
Yn ei adroddiad chwarterol cyntaf a gyhoeddwyd ym mis Hydref rhybuddiodd y panel annibynnol fod "ffordd bell iawn i fynd" cyn y gallai gwasanaethau mamolaeth yn Cwm Taf Morgannwg gael eu datgan yn ddiogel.
Mae naws ail adroddiad chwarterol y panel yn fwy cadarnhaol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2019
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2018