Llywodraeth y DU 'dal eisiau carchar arall' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
carcharFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae bwriad o hyd gan Lywodraeth y DU i adeiladu carchar arall yng Nghymru, yn ôl yr ysgrifennydd cyfiawnder.

Dywedodd Robert Buckland ei fod yn gobeithio gweithio gyda chynghorau a Llywodraeth Cymru i "sicrhau bod hynny'n dod yn realiti".

Cafodd cynlluniau ar gyfer carchar mawr ym Mhort Talbot eu tynnu yn ôl yn dilyn gwrthwynebiad chwyrn yn lleol.

Dywedodd Mr Buckland fod ganddo hefyd "ddiddordeb" mewn datblygu canolfan i fenywod yng Nghymru.

'Canol y degawd nesaf'

Ar hyn o bryd mae pum carchar yng Nghymru - CEM Berwyn, CEM Caerdydd, CEM Parc, CEM Abertawe, a CEM Brynbuga/Prescoed - i gyd ar gyfer dynion.

Wrth siarad â rhaglen Politics Wales y BBC, fe wnaeth Mr Buckland gydnabod bod "problem" gyda charcharorion benywaidd o Gymru yn gorfod cael eu cadw yn Lloegr.

Ond ychwanegodd bod rhaid cydbwyso'r syniad o ganolfan i ferched "yn erbyn yr holl flaenoriaethau eraill".

Llynedd fe wnaeth y prif weinidog Bori Johnson gyhoeddi cynlluniau i greu 10,000 o lefydd ychwanegol yng ngharchardai Cymru a Lloegr.

Y bwriad ar gyfer Port Talbot, cyn y gwrthwynebiad lleol, oedd adeiladu carchar Categori C fyddai'n dal hyd at 1,600 o garcharorion.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Robert Buckland y byddai carchar arall yng Nghymru "yn dda i'r boblogaeth leol"

Ac fe ddywedodd y gweinidog cyfiawnder fod bwriad o hyd i adeiladu safle o'r fath yng Nghymru.

"Dwi eisiau sicrhau bod gennym ni gyfleuster sydd o'r maint a'r model cywir, ac yn gwneud beth mae carchar i fod i'w wneud," meddai Mr Buckland, gafodd ei eni yn Llanelli.

"Dydw i ddim yn mynd i ymrwymo i garchar o faint penodol nawr. Ond rydw i'n credu y byddai carchar arall yng Nghymru yn dda i'r boblogaeth leol.

"Mae angen i ni symud ymlaen ar hyn. Dwi eisiau ei weld erbyn canol y degawd nesaf, felly bydd fy swyddogion yn gwneud hynny allen nhw i ddod o hyd i safleoedd priodol yng Nghymru a Lloegr a sicrhau hynny."

Ym mis Ionawr 2019 fe gyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd adroddiad yn dweud bod gan Gymru'r gyfradd uchaf o garcharorion yng ngorllewin Ewrop.

Dim datganoli cyfiawnder

Dywedodd Mr Buckland hefyd nad oedd o blaid datganoli pwerau dros gyfiawnder i Lywodraeth Cymru, er bod comisiwn diweddar wedi awgrymu hynny.

"Y cwestiwn mae'n rhaid i chi ofyn i'ch hun ydy 'beth fyddai canlyniad hynny?'," meddai AS Ceidwadol De Swindon.

"Yn lle poeni am y broses, pa ddesg sydd yn gyfrifol am beth, mae'n bwysicach o safbwynt trigolion i feddwl beth fydd y canlyniadau.

Ychwanegodd: "Byddai'n well gan y cyhoedd fy ngweld i a'r ysgrifennydd cartref a'r prif weinidog yn canolbwyntio ar wneud strydoedd Cymru'n saffach, yn hytrach na phoeni am bwy sy'n dal y feiro."