Cynnig i roi pleidlais ddirprwyol i Aelodau Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Bydd Aelodau Cynulliad ar famolaeth yn cael pleidleisio yn y Senedd trwy ddirprwy (proxy) o dan gynigion newydd.
Byddai mamau newydd yn cael enwebu eraill i bleidleisio am chwe mis, tra bydd tadau'n cael pythefnos.
Dywedodd AC Plaid Cymru, Bethan Sayed, sy'n feichiog, ei bod yn gobeithio y gallai'r newid ddigwydd cyn gynted â phosib.
Ond mae'r Ceidwadwyr yn pryderu y gallai ACau bleidleisio heb glywed y dadleuon yn llawn mewn trafodaethau.
Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones wedi gofyn i ACau am eu barn ar y cynigion, a fydd yn cael eu hystyried gan aelodau o bwyllgor busnes y Cynulliad pan fyddan nhw'n cyfarfod ddydd Mawrth.
Y disgwyl ydy y bydd pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer salwch tymor hir a chyfrifoldebau gofalu eraill yn cael ei ystyried yn nes ymlaen.
Mae Tŷ'r Cyffredin wedi rhedeg cynllun peilot am y flwyddyn ddiwethaf ar ôl ffrae ynglŷn â threfniadau anffurfiol o'r enw paru.
Golygai hynny bod AS o blaid arall yn cytuno i gadw draw os na all aelod bleidleisio, gan ganslo dwy bleidlais yr ASau i bob pwrpas.
Mae trefniadau hefyd yn bodoli yn seneddau Awstralia a Seland Newydd.
Beth yw'r cynigion?
O dan y cynigion gallai mam fiolegol babi, y mabwysiadwr cynradd neu sengl, neu'r prif ofalwr neu'r gofalwr sengl mewn trefniant surrogacy, enwebu rhywun i bleidleisio am chwe mis.
Byddai gan dadau biolegol hawl i bythefnos, yn yr un modd â phartner yr unigolyn sy'n rhoi genedigaeth â chyfrifoldebau rhieni, ail fabwysiadwr babi neu blentyn, neu ofalwr eilaidd babi neu blentyn.
Mae'r ymgynghoriad ag ACau wedi digwydd yn breifat, yn yr un modd â'r mwyafrif o waith pwyllgorau busnes, ac nid yw'r ddogfennaeth wedi'i chyhoeddi.
Mae Bethan Sayed wedi galw o'r blaen am eilydd i gyflenwi dros aelodau etholedig pan fyddan nhw ar gyfnod mamolaeth.
Fe alwodd am i'r broses fod yn hyblyg fel y gall aelodau bleidleisio ar faterion y maen nhw wedi cymryd diddordeb penodol ynddyn nhw, ac ni ddylid gosod terfyn amser mympwyol.
"Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd angen amserlen hirach ar rai aelodau nag eraill," meddai.
Dywedodd y dylid ystyried pleidleisiau dirprwyol "pan mae'n briodol".
"Gobeithio y gall hyn fod ar waith cyn gynted ag y bydd yn ymarferol gwneud hynny a sefydlu strwythur clir, fel bod hyder y cyhoedd pan na all un o'u haelodau etholedig fod yn bresennol, y gellir defnyddio eu pleidlais o hyd," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod gan grŵp plaid y cynulliad "bryderon ynghylch effaith newid y system bresennol o baru i drefniant pleidleisio drwy ddirprwy ffurfiol".
"Yn sylfaenol i'r pryderon hynny yw y bydd aelodau'n dynodi ffordd i bleidleisio heb gymryd rhan mewn dadleuon ac felly'n methu â newid eu meddyliau ar sail cryfder y dadleuon a wneir gan ACau eraill," meddai.
"Mae'r system baru gyfredol hefyd yn galluogi aelodau i fod yn absennol am resymau eraill fel colli trefniadau gofal plant neu os oes angen iddynt ofalu am berthynas neu aelod o'r teulu, nid yw'r system arfaethedig newydd yn caniatáu pleidleisio drwy ddirprwy yn y sefyllfaoedd hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2019