'Dim ots am dreiglo' wrth anelu am filiwn o siaradwyr Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Eluned MorganFfynhonnell y llun, Astud
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y Farwnes Eluned Morgan yn Weinidog y Gymraeg yn 2017

Mae Gweinidog y Gymraeg wedi dweud bod angen i siaradwyr Cymraeg fod yn fwy hyderus ac nad oes ots os ydy pobl yn treiglo neu beidio.

Dywedodd Eluned Morgan fod y diffyg hyder ymhlith pobl sy'n dysgu neu'n gallu siarad yr iaith yn "anhygoel".

Yn siarad ar raglen Y Fro Gymraeg ar BBC Radio Cymru, bu'n sôn am nod y llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Rhan o beth mae'n rhaid i ni wneud ydy cael pobl yng Nghymru i ddeall bod nhw yn siarad Cymraeg," meddai'r Farwnes Morgan.

"Ma' diffyg hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg yn anhygoel.

"Ma' gyda ni rywun sy'n gweithio'n fan hyn [yn ei swyddfa] sy' wedi'i geni a'i magu yn Nhregaron, sy'n siarad Cymraeg yn hollol rugl, ac sy'n dweud wrtha i bod hi ddim yn siarad Cymraeg."

Ychwanegodd: "Y broblem yw sut ni'n cael pobl i dicio'r bocs cywir ambell waith a chael yr hyder i ddweud 'mae Nghymraeg i'n ddigon da'.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig bod ni'n rhoi gwybod yn hollol glir i bobl bod siarad Cymraeg, unrhyw Gymraeg, yn dderbyniol - 'sdim ots 'da fi os maen nhw'n treiglo'n gywir neu beidio."

Pwysleisiodd fod gan y llywodraeth darged i "ddyblu defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau ni".

"[Mae'n] rhan hanfodol o'n strategaeth ni... un o'r prif heriau ydy bod lot o bobl yn mynd trwy addysg Gymraeg ac wedyn mae'n cwympo i ffwrdd, felly ma' cadw'r rheiny sy'n 16 i 18 [oed] i siarad Cymraeg - ma' hwnna'n un o'r heriau mwya' sy' gyda ni."

Mae cyfres Y Fro Gymraeg ar BBC Radio Cymru am 17:00 brynhawn Sul, 26 Ionawr.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd gan y BBC