Gosod gorchymyn yn achos puteindra Bodedern, Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Fferm BodedernFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y garafán ar y fferm yn cael ei rhentu allan am £200 yr wythnos

Mae dynes oedd yn gyfrifol am redeg puteindy o fferm ar Ynys Môn wedi derbyn gorchymyn risg caethwasiaeth a masnachu pobl.

Fe osododd ynadon yn Llys Ynadon Llandudno'r gorchymyn ar Thumma Peacock, 59, am saith mlynedd wedi i gyfreithiwr ar ran Heddlu Gogledd Cymru ddweud fod perygl y gallai chwarae rhan mewn masnachu pobl eto yn y dyfodol.

Ar 24 Medi'r llynedd aeth swyddogion yr heddlu i fferm Manaw Fawr ym Modedern, a darganfod fod dwy ddynes o Wlad Thai yn gweithio yno yn y diwydiant rhyw, er mai dim ond un oedd yno ar y pryd.

Roedd y menywod, oedd yn 47 a 50 oed, yn wreiddiol o Warrington, ac fe esboniodd y ddwy eu bod yn talu £200 yr wythnos am garafán ar y safle.

Puteindy

Wrth gael ei holi, dywedodd Peacock, oedd wedi ei chael yn euog o reoli puteindra mewn puteindy ym Mangor yn 2015, fod y garafán yn cael ei defnyddio gan y gweithwyr rhyw.

Daw ar ôl i berchennog fferm Manaw Fawr, Alun Williams, dderbyn gorchymyn risg caethwasiaeth a masnachu pobl am bum mlynedd ym mis Hydref.

LlysFfynhonnell y llun, Richard Hoare/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Llys Ynadon Llandudno

Clywodd y llys yn Llandudno fod Peacock wedi cyfaddef iddi brynu condoms yr oedd yr heddlu wedi eu darganfod ar y fferm, a chyfaddef ei bod wedi cynorthwyo gyda gwefan lle'r oedd y merched yn hysbysebu eu gwasanaethau.

Roedd Peacock wedi defnyddio tai haf yn Sir Benfro yn y gorffennol.

Ni wnaeth ei chyfreithiwr Alex Fitzgerald wrthwynebu'r gorchymyn risg, gan ddweud wrth y llys eu bod yn derbyn y byddai'r gorchymyn wedi ei osod hyd yn oed pe bai nhw wedi ei wrthwynebu.