Ross England bellach 'ddim yn ymgeisydd Ceidwadol'

  • Cyhoeddwyd
Ross England

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cadarnhau na fydd Ross England yn sefyll fel ymgeisydd i'r blaid yn etholiadau'r Cynulliad yn 2021.

Daw hynny wedi iddo gael ei wahardd o fod yn aelod o'r blaid ac yn ymgeisydd ym mis Hydref yn dilyn ei rôl mewn dymchwel achos llys yn ymwneud â chyhuddiad o dreisio.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Geidwadol nad oedd Mr England "bellach yn ymgeisydd ar ran y blaid Geidwadol".

Ddydd Mercher dywedodd tair ffynhonnell o'r blaid wrth BBC Cymru nad oedden nhw'n credu bod Mr England yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd.

Ym mis Ebrill 2018 cafodd Mr England ei gyhuddo gan farnwr Uchel Lys o fynd ati'n fwriadol i ddymchwel achos llys lle'r oedd cyfaill yn sefyll ei brawf yn Ebrill 2018, trwy wneud honiadau ynghylch hanes rhywiol y dioddefwr.

Nid oedd hawl ganddo rannu'r manylion yma yn y llys.

Ond gwadodd Mr England ei fod yn ymwybodol o hynny pan roddodd dystiolaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ross England ei ddewis i sefyll fel ymgeisydd i'r Ceidwadwyr Cymreig ym Mro Morgannwg yn etholiad Cynulliad 2021

Arweiniodd y ffrae at ymddiswyddiad AS Bro Morgannwg, Alun Cairns, fel Ysgrifennydd Cymru yn dilyn honiadau ei fod yn ymwybodol o rôl Mr England yn yr achos llys.

Cafodd Mr Cairns ei ail-ethol fel AS Bro Morgannwg yn etholiad cyffredinol 2019, ac wedi hynny penderfynwyd na wnaeth dorri'r cod gweinidogol.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Geidwadol: "Ymgynullodd pwyllgor ymgeiswyr y Ceidwadwyr Cymreig ar 22 Ionawr 2020 i ystyried y dystiolaeth ynglŷn ag achos yn ymwneud ag ymgeisydd Seneddol ar gyfer Bro Morgannwg, Ross England, a daethom i'r casgliad y dylai ei ymgeisyddiaeth gael ei dynnu yn ôl.

"Dydy Ross England bellach ddim yn ymgeisydd dros y Ceidwadwyr Cymreig."