Ross England i roi'r gorau i fod yn ymgeisydd Ceidwadol

  • Cyhoeddwyd
Ross England
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ross England ei wahardd yn dilyn ei ymddygiad mewn achos llys gafodd ei ddymchwel

Mae disgwyl i Ross England roi'r gorau i fod yn ymgeisydd i'r Ceidwadwyr ym Mro Morgannwg yn etholiadau'r Cynulliad, mae BBC Cymru yn deall.

Cafodd Mr England ei wahardd fel ymgeisydd 12 wythnos yn ôl yn dilyn y newyddion fod ei ymddygiad fel tyst wedi golygu fod achos llys wedi dymchwel.

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig y bydd eu hymchwiliad i'r mater "yn dod i ben yn fuan iawn".

Ond mae Ceidwadwyr yn lleol wedi dweud y bydd Mr England yn camu o'r neilltu fel ymgeisydd beth bynnag fydd canlyniad yr ymchwiliad i'w ymddygiad.

Achos llys

Roedd barnwr Uchel Lys wedi cyhuddo Mr England o fynd ati'n fwriadol i ddymchwel achos llys lle'r oedd cyfaill yn sefyll ei brawf yn Ebrill 2018, trwy wneud honiadau ynghylch hanes rhywiol y dioddefwr.

Nid oedd hawl ganddo rannu'r manylion yma yn y llys.

Mae Mr England wedi gwadu iddo wybod hynny pan roedd yn rhoi tystiolaeth.

Ond dywedodd y barnwr ar y pryd nad oedd ganddo unrhyw amheuaeth fod hyn wedi bod yn ymdrech fwriadol i ddymchwel yr achos.

Penderfyniad

Dywedodd Russell Spencer-Downe o Gymdeithas Ceidwadwyr Bro Morgannwg ei fod wedi gobeithio y byddai bwrdd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwneud penderfyniad sydyn am ddyfodol Mr England, ond fod yr holl oedi wedi gadael y blaid "rhwng dwy stôl".

Yn ôl un ffynhonnell ymysg y Ceidwadwyr yn lleol sydd wedi siarad gyda BBC Cymru, mae Mr England yn brwydro i arbed ei enw da "ond mae'n benderfynol nad ydyw wedi gwneud dim o'i le".

Ychwanegodd: "Mae wedi dweud wrthym ei fod am gamu o'r neilltu fel ymgeisydd ac felly fe fydd proses mewn amser o ddewis ymgeisydd newydd."