Cyfle i fuddsoddi mewn fferm wynt bosib yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddiwrnod agored yn cael eu cynnal er mwyn i bobl gael mwy o fanylion am gynlluniau posib i godi fferm wynt ger y ffin rhwng siroedd Conwy a Dinbych.
Fe wnaeth Cwmni Innogy Renewables UK sicrhau'r hawl yn 2017 i ddatblygu prosiect ynni adnewyddadwy yng Nghoedwig Alwen, ger Llyn Brenig a Chronfa Alwen.
Mae rhan fwyaf y safle dan sylw yn Sir Conwy - tua phedwar cilomedr i'r gogledd o Gerrigydrudion - ac yn dir sy'n eiddo i Dŵr Cymru ac yn cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd cyfle ddydd Gwener a dydd Sadwrn i fuddsoddwyr posib ddysgu mwy am y cynllun, sydd eto i gael ei gymeradwyo, wrth i'r cwmni ymgynghori ar ei ddyluniad.
Mae'r cynllun dal yn cael ei ddatblygu, ond y bwriad yw codi fferm wynt gyda hyd at naw tyrbin sydd â'r gallu i gynhyrchu 33MW (megawat) o ynni glân.
'Gofyn am adborth'
Cafodd y safle ei nodi gan Lywodraeth Cymru dan strategaeth TAN 8 fel ardal addas i'w datblygu er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Dywed cwmni Innogy bod y cynllun yn ei gyfnod cychwynnol ond eu bod "yn awyddus i rannu gymaint o wybodaeth â phosib a gofyn am adborth".
Bydd cynrychiolwyr partneriaid y cwmni yn y cynllun, Ynni Cymunedol Cymru, yn y ddau ddigwyddiad i drafod sut gall trigolion lleol brynu cyfranddaliadau yn y prosiect.
Mae'r sesiwn gyntaf brynhawn Gwener rhwng 15:30 a 18:30 yn Nhŷ Eglwys Nantglyn, a'r ail yng Nghanolfan Gymunedol Cerrigydrudion ddydd Sadwrn rhwng 10:00 a 13:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2017
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2019