Pryder am ddyfodol adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Brenhinol MorgannwgFfynhonnell y llun, Google

Mae gwleidyddion wedi beirniadu cynlluniau maen nhw'n dweud allai olygu israddio uned frys mewn ysbyty yn ne Cymru.

Ar hyn o bryd mae penaethiaid iechyd yn ystyried newidiadau allai olygu na fydd Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant yn trin yr achosion brys mwyaf difrifol.

Ond mae gwleidyddion Llafur a Phlaid Cymru yn Rhondda a Phontypridd wedi mynegi eu gwrthwynebiad.

Fe fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn trafod yr opsiynau ddydd Iau, ac maen nhw'n dweud y bydd "safon yn ganolog" i'w hystyriaethau.

'Trychinebus'

Er y bydd pedwar opsiwn yn mynd gerbron y bwrdd wythnos nesaf, dim ond dau ohonyn nhw sy'n cael eu hargymell.

Byddai un yn golygu newid yr adran frys o wasanaeth wedi'i arwain gan ymgynghorwyr i uned anafiadau mân fyddai'n cael ei redeg gan nyrsys, a mynediad ychwanegol at "ofal agosach at adref".

Byddai'r ail yn golygu cadw ymgynghorwyr yn yr ysbyty, ond cwtogi eu horiau, gyda nyrsys yn rhedeg yr adran fel uned anafiadau mân yn eu habsenoldeb.

Dywedodd AC Rhondda Leanne Wood ei bod hi'n bryderus iawn fod cynlluniau roedd hi wedi brwydro yn eu herbyn yn 2014 nawr yn cael eu hatgyfodi.

"Mae cynllunio annigonol o'r gweithlu gan sawl gweinidog iechyd Llafur yn golygu bod gan Gymru un o'r cyfraddau isaf o ddoctoriaid i'r boblogaeth yn Ewrop," meddai cyn-arweinydd Plaid Cymru.

"Mae gennym ni ymgynghorydd ar gyfer pob 15,000 o bobl yma, a'r cyfartaledd ar draws y DU ydy tua un ymgynghorydd i bob 7,000."

Ychwanegodd AS Llafur Rhondda, Chris Bryant, y byddai unrhyw un o'r ddau opsiwn yn "drychinebus" i bobl yr ardal, gyda llawer yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus a ffyrdd mynyddig oedd yn beryglus yn y gaeaf.

Os oedd y newidiadau'n digwydd, meddai, byddai angen agor Ysbyty Cwm Rhondda yn hirach, a chynnig cludo cleifion i adrannau brys ym Mhen-y-bont a Merthyr os oedd angen.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd AS ac AC Llafur Pontypridd, Alex Davies-Jones a Mick Antoniw, y bydden nhw'n codi'r mater gyda'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru.

"Mae darpariaeth adran frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn rhan greiddiol o'r ddarpariaeth iechyd i bobl ym Mhontypridd a chymunedau'r cymoedd yn ehangach, ac rydyn ni'n gwrthwynebu'n gryf unrhyw gynlluniau i israddio gwasanaethau brys yno," meddai'r datganiad.

'Anghynaliadwy'

Dywedodd Dr Sharon Hopkins, prif weithredwr dros dro'r bwrdd iechyd, fod pwysau parhaol yn golygu nad oedd hi'n "gynaliadwy" i gadw adrannau brys gydag ymgynghorwyr ar agor 24 awr y dydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a rhai cyfagos ym Mhen-y-bont a Merthyr.

Ychwanegodd y byddai'r bwrdd iechyd yn "sicrhau bod pawb yn rhan o ddatblygu'n model ni o ofal at y dyfodol, a gweithio drwy'r holl oblygiadau i sicrhau bod safon yn ganolog a'n bod ni'n cryfhau ein gwasanaethau cymunedol ar bob cyfle".

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n disgwyl i'r bwrdd iechyd "weithio gyda'u partneriaid ar bob cyfle" ond nad oedden nhw am wneud sylw pellach cyn i'r adolygiad gael ei gynnal.