Cwm Taf: Rhieni babi fu farw eisiau ymchwiliad heddlu

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Sarah Handy yn parhau i chwilio am atebion wedi marwolaeth ei merch yn 2017

Dywed cwpl a gollodd blentyn wedi camgymeriadau yng ngwasanaeth mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf eu bod am gael ymchwiliad heddlu i'r hyn ddigwyddodd.

Cafodd gwasanaethau mamolaeth y bwrdd eu rhoi dan fesurau arbennig ym mis Ebrill 2019.

Clywodd cwest bod camgymeriadau yn y gofal a gafodd Sarah Handy wedi cyfrannu at farwolaeth ei babi yn 2017.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro ac yn dweud ei fod wedi delio â'r materion a godwyd gan rieni wedi cyhoeddi adroddiad Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr.

Mae achos Mrs Handy yn un o 140 achos sy'n cael ei adolygu er mwyn canfod a gafodd mamau a'u babanod eu niweidio gan y gofal a gawsont yn unedau mamolaeth Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Mae arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, yn cefnogi galwad y teulu am ymchwiliad troseddol.

Mae rhaglen BBC Wales Investigates wedi canfod bod y camgymeriadau a ddigwyddodd yn adrannau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg wedi costio degau o filiynau o bunnau mewn iawndal yn ystod y deg mlynedd ddiwethaf.

Anfon adref mewn camgymeriad

Bu'n rhaid i Mrs Handy, a oedd yn cael ei hystyried yn glaf risg uchel oherwydd materion iechyd, eni adref oherwydd camgymeriad yn Ysbyty'r Tywysog Charles.

Pan aeth i'r ysbyty yn credu ei bod yn dioddef o boenau rhoi genedigaeth, cafodd ei hanfon adref gyda thabledi paracetamol a chyffuriau at fod yn rhwym.

Ond yr oedd hi'n dioddef o boenau geni babi ac ymhell o unrhyw gymorth meddygol.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw merch Sarah a Jonathan Handy yn fuan wedi iddi gael ei geni wedi 26 wythnos

Cafodd Jennifer ei geni mor gynnar fel ei bod angen gofal arbenigol.

Ei thad, sy'n blismon a ddaeth â hi i'r byd - roedd y babi bach yn gallu anadlu ond roedd hi mewn cyflwr difrifol a bu farw ym mreichiau ei mam cyn cyrraedd yr ysbyty.

Bu'n rhaid i Sarah Handy gael llawdriniaeth frys.

Oherwydd methiannau mewn cadw cofnodion, chafodd yr hyn a ddigwyddodd ddim ei gofnodi fel digwyddiad "difrifol".

Dywedodd Mr Handy o Ferthyr: "Roedd ein merch fach wedi marw a bu bron i fy ngwraig hefyd farw adref - allai'm deall nad yw hynna yn ddigwyddiad difrifol? Roedd yna farwolaeth. Beth sy'n fwy difrifol na hynna?"

Dangosodd cwest i farwolaeth Jennifer bod penderfyniad y cofrestrydd i anfon Mrs Handy adref wedi cyfrannu at ei marwolaeth.

Yn Ebrill 2019 cafodd adroddiad Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr ei gyhoeddi a nododd bod y bwrdd iechyd wedi methu â delio â materion fel prinder staff a system gwynion.

Mae'r teulu Handys am wybod a wnaeth methiannau ehangach a ddaeth i sylw arolygwyr gyfrannu at farwolaeth Jennifer.

Dywedodd Mr Handy: "Dylai ymchwiliad gael ei gynnal er mwyn canfod a oedd yna elfen droseddol i'r hyn ddigwyddodd.

"Fyddai'm yn gallu gorffwys nes ein bod yn gwybod fod ymchwiliad manwl wedi digwydd - ymchwiliad sy'n edrych ar bob ongl i'r hyn ddigwyddodd."

Staff yn ofn dweud

Am chwe blynedd roedd bydwragedd Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn ceisio dod â'r materion i sylw ehangach.

Dywedodd Helen Rogers, pennaeth y coleg bydwragedd yng Nghymru: "Roedd staff yn eu dagrau am nad oeddynt yn gallu darparu'r gofal angenrheidiol ac roeddynt yn teimlo petaent yn dweud y byddent yn cael eu cosbi."

Cafodd y pryderon eu cyflwyno i'r Prif Weithredwr Allison Williams a oedd yn cael ei thalu £175,000 y flwyddyn am y gwaith o sicrhau bod y bwrdd yn gweithredu'n effeithiol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-brif weithredwr Allison Williams wedi ymddiheuro

Yn 2017 mewn arolwg dienw dywedodd 91% o fydwragedd nad oedd digon o staff i gwblhau'r gwaith yn iawn.

Dywedont hefyd bod y sefyllfa yn teimlo'n anniogel a bod menywod yn derbyn safon gofal annerbyniol.

Kayden yn cael 50 llawdriniaeth

Wedi camgymeriadau wrth ofalu am Lisa Broom yn Ysbyty y Tywysog Charles yn 2012 cafodd ei mab Kayden ei eni gydag anableddau dysgu a chorfforol difrifol.

Ers ei eni mae wedi cael 50 llawdriniaeth ac mae angen gofal 24 awr y dydd.

Cafodd Ms Broom boenau geni dri mis yn gynnar yn Ysbyty'r Tywysog Charles a chafodd ei throsglwyddo i Ysbyty John Radcliff yn Rhydychen - taith o 120 milltir.

Dywedodd: "Yn yr ambiwlans ro'n i'n cadw dweud nad oeddwn yn mynd i gyrraedd ond roedd yn rhaid iddyn nhw ddilyn cyngor a oeddynt wedi'i gael gan staff ar lefel uwch."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mam Kayden Broom ei hanfon i Rydychen wedi iddi ddechrau cael poenau esgor

Ond roedd yna broblemau cyfathrebu - roedd y cofrestrydd a wnaeth anfon Ms Broom i Rydychen wedi meddwl y byddai hi'n teithio mewn ambiwlans awyr.

Wnaeth ymgynghorydd ddim ei harchwilio cyn gadael Merthyr a chafodd hi ddim mo'r feddyginiaeth gywir.

Wrth i'r ambiwlans gyrraedd Rhydychen cafodd Kayden ei eni ond doedd e ddim yn anadlu - fe wnaeth y diffyg ocsigen achosi nam ar yr ymennydd.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro ac yn dweud bod gwersi wedi'u dysgu.

Dywed y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ei fod yn teimlo "na chafodd wybod y gwir" am y sefyllfa staffio cyn i'r darlun ehangach ddod i'r golwg.

"Roedd hi'n amlwg," meddai, "nad yn ystod recriwtio yn unig roedd staffio yn broblem - roedd hi'n broblem hirdymor. Roedd staff wedi codi hynny ac wedi cael sicrwydd fod pethau'n cael eu gwneud i fynd i'r afael â'r sefyllfa."

Yn 2018 nododd adroddiad gan fydwragedd bod nifer o fethiannau a bod newidiadau ddim wedi cael eu cyflwyno.

Ond ni rannodd prif weithredwr y bwrdd ar y pryd nag uwch reolwyr yr adroddiad.

Dywedodd Mr Gething ei fod yn "hynod anhapus" am hynny ac na ddylai'r math yma o beth fyth ddigwydd yn y gwasanaeth iechyd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Daeth problemau i'r amlwg yn Ysbyty'r Tywysog Charles mor ddiweddar â dwy flynedd yn ôl

Mae Allison Williams wedi ymddiheuro yn gyhoeddus yn y Senedd am fethiannau'r unedau mamolaeth.

Yn haf 2019 gadawodd ei swydd a gwrthododd â gwneud sylw i raglen Wales Investigates.

Achos llys posib

Er bod y gwasanaethau mamolaeth o dan fesurau arbennig, mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sydd wedi cael ei weld gan y BBC yn dangos fod babanod yn wynebu risg yn Ysbyty'r Tywysog Charles mor ddiweddar a deufis yn ôl.

Roedd yna broblemau hefyd yn uned famolaeth arall Cwm Taf Morgannwg - yn ysbyty Tywysog Cymru, Pen-y-bont.

Dywedodd y prif weithredwr dros dro, Dr Sharon Hopkins, bod pryderon wedi'u datrys er bod mwy o welliannau i'w gwneud.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Andrew Morgan ei fod yn teimlo ei fod wedi cael ei gamarwain

Dywed arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, ei "bod yn sgandal" nad oedd neb o'r bwrdd iechyd wedi cael ei wneud yn gyfrifol am fethiannau'r gorffennol ac mae e hefyd yn galw am ymchwiliadau troseddol.

BBC Wales Investigates Undercovered: The Baby Scandal, dydd Llun, 27 Ionawr am 19:30 ar BBC 1 Cymru.