33 mlynedd dan glo i ddau ddyn am fewnforio cocên
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi'u carcharu am gyfanswm o 33 mlynedd ar ôl cael eu dal gyda 751 cilogram o gocên gwerth £60m ar fwrdd cwch oedd wedi hwylio ar draws Fôr yr Iwerydd.
Fe deithiodd Gary Swift, 53, a Scott Kilgour, 41, i Suriname yn Ne America i gasglu'r cyffuriau ym Mehefin y llynedd.
Mewn cyrch oedd wedi'i threfnu, fe gafodd y cwch llawn cyffuriau ei stopio ger Abergwaun, Sir Benfro ym mis Awst 2019.
Daeth yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol (NCA) o hyd i 751 cilogram o'r cyffur - gwerth hyd at £60m ar y stryd - ar gwch hwylio'r SY Atrevido ym Mae Sain Ffraid.
Cafodd Swift a Kilgour, y ddau o Lerpwl, eu harestio ar fwrdd y cwch.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun, cafodd Swift ddedfryd o 19 mlynedd a hanner o garchar, ac fe gafodd Kilgour 13 mlynedd a hanner o garchar.
Roedd y ddau wedi pledio'n euog i gyhuddiad o fewnforio cocên.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Swift wedi dweud wrth swyddogion ar ôl cael ei arestio: "Fi ydy'r un drwg yn fan hyn. Roedd yn rhaid i mi gyfaddef. Dwi'n falch ei fod drosodd."
Cafodd 751 o becynnau cocên eu canfod ar y cwch - wedi'u storio ym mhob man, gan gynnwys yr oergell.
Dywedodd y bargyfreithiwr Anthony Barraclough ar ran yr amddiffyn fod Swift wedi cael ei berswadio i fewnforio'r cyffuriau gan gwsmer mewn gwesty yr oedd yn berchen arno.
Ychwanegodd Mr Barraclough fod Swift wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr.
Clywodd y llys mai Kilgour brynodd y cwch yn Majorca yn Rhagfyr 2018.
Bydd Swift a Kilgour yn treulio o leiaf hanner eu dedfryd dan glo cyn cael eu rhyddhau ar drwydded.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2019
- Cyhoeddwyd28 Awst 2019