Dippy'n gadael wedi llwyddiant ysgubol

  • Cyhoeddwyd
DippyFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Dippy yng nghyntedd yr amgueddfa

Daeth cyfnod Dippy y Diplodocus yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd i ben ar ôl rhoi hwb mawr i'r sefydliad.

Mae cast sgerbwd deinosor enwocaf Amgueddfa Hanes Natur, Llundain, wedi bod yn aros yn yr amgueddfa yng Nghaerdydd am y tri mis diwethaf.

Dros y cyfnod yna, fe wnaeth yr amgueddfa groesawu 213,740 o ymwelwyr, sy'n gynnydd o 42% ar gyfartaledd wrth gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn gynt.

Roedd y cyfnod yn rhan o 'Dippy ar Daith' pan fydd un o wrthrychau mwyaf eiconig Amgueddfa Hanes Natur Llundain ar daith o amgylch y DU am dair blynedd.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: "Mae cannoedd ar filoedd o bobl dros Gymru a thu hwnt wedi mwynhau gweld Dippy yng Nghaerdydd ac wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau Dippy yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

"Mae hi wedi bod yn galonogol i weld sut mae'r arddangosfa wedi ysbrydoli ymwelwyr o bob oedran i archwilio, darganfod a dysgu sut allen nhw gymryd rhan a gwarchod natur ar eu stepen ddrws.

"Ry'n ni'n drist i weld Dippy yn ein gadael, roedd yn edrych yn ysblennydd yn ein prif Neuadd ond ry'n ni hefyd yn gwybod y bydd yn dod â gwen i lawer mwy o bobl wrth iddo barhau â'i daith o amgylch y DU".

Pwysicach nag erioed

Daeth dros 12,441 o blant ysgol o 282 ysgol ar draws y wlad i fwynhau teithiau tywys i weld Dippy yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Ochr yn ochr â'r arddangosfa, fe wnaeth fforwm ieuenctid yr Amgueddfa feddiannu un o orielau'r Amgueddfa. Yn y gofod hwn, creodd y bobl ifanc gerfluniau o ddeinosoriaid a chreaduriaid diflanedig eraill o ddillad ail law fel ymateb i effaith ffasiwn ffwrdd â hi a gwastraff ar ein hamgylchedd.

Un o'r cyrff a roddodd gymorth ariannol er mwyn denu Dippy i Gaerdydd oedd Sefydliad Garfield Weston, a dywedodd Philippa Charles o'r Sefydliad: "Bwriad Dippy yw ysbrydoli pobl i ddarganfod y byd natur sydd o'u cwmpas ac ystyried beth yw ei rôl nhw yn ei warchod - mae hyn yn fwy pwysig nawr nag erioed.

"Ry'n ni wrth ein bodd bod Dippy wedi cyflawni ei dasg mewn ffordd mor llwyddiannus yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac ry'n ni'n gwybod ei fydd yr un mor boblogaidd yn ei gartref newydd yn Rochdale."