Trafod ffi gyrru dadleuol gydag ACau

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caerdydd ymysg y dinasoedd gwaethaf yn y DU am safon yr aer

Bydd Aelodau Cynulliad Llafur sy'n anhapus gyda chynlluniau i godi tâl ar yrwyr sy'n dod i ganol dinas Caerdydd yn cael cyfle i holi arweinydd Cyngor Caerdydd ddydd Mawrth.

Mae sawl AC o'r Cymoedd wedi beirniadu'r syniad o godi ffi o £2 y dydd ar bobl sydd ddim yn byw yn y ddinas.

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, wedi gwadu fod y ffi yn dreth ar drigolion y cymoedd.

Gallai'r tâl gael ei gyflwyno erbyn 2024, ond mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus cyn i hynny ddigwydd.

Mae'n rhan o gynllun hir dymor yr awdurdod i daclo newid hinsawdd, lleihau tagfeydd yn y ddinas, gwella ansawdd yr aer a chodi arian i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus.

Cyn bwrw 'mlaen gyda'r cynllun fe fyddai angen sêl bendith Llywodraeth Cymru.

'Chwerthinllyd'

Eisoes mae'r Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates wedi dweud bod angen ystyried yr effaith ar y rhanbarth ehangach, gan gynnwys "rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru".

Cafodd y syniad ei ddisgrifio fel un "chwerthinllyd" gan Hefin David, AC Llafur Caerffili, a'i fod yn "tanseilio" cynllun strategol y cyngor ar drafnidiaeth.

Dywedodd AC Blaenau Gwent, Alun Davies fod y ffi yn "dreth ar y Cymoedd" a bod perygl iddo greu sefyllfa "ni a nhw" rhwng y cymoedd a Chaerdydd.

Mewn cyfarfod preifat fore Mawrth bydd yr ACau yn trafod y mater gyda Huw Thomas a'r aelod cabinet dros drafnidiaeth ar Gyngor Caerdydd, Caro Wild.

Dywedodd cadeirydd grŵp Llafur yn y Cynulliad ac AC Cwm Cynon, Vikki Howells: "Byddaf yn chwilio am sicrwydd fod talp sylweddol o unrhyw arian a ddaw o'r cynllun yn cael ei wario ar gysylltiadau trafnidiaeth ar draws y rhanbarth ac i mewn i Gaerdydd, gyda phwyslais arbennig ar gysylltiadau bws.