Reading yn gwrthod cais am ymddiheuriad Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Reading wedi addo adolygu eu gweithdrefnau ar ddyddiau gemau, ond yn cefnogi penderfyniad i gosbi cefnogwyr Caerdydd am "sylwadau hiliol".
Cafwyd canlyniad cyfartal rhwng y ddau dîm yn eu gornest yng Nghwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn.
Wedi hynny daeth i'r amlwg fod Heddlu Thames Valley yn ymchwilio i honiadau bod rhai o gefnogwyr Caerdydd wedi gweiddi sloganau hiliol yn ystod y gêm, ac fe gafodd pedwar o bobl eu harestio.
Roedd clwb Caerdydd yn cwestiynu'r honiadau cyn mynnu ymddiheuriad gan glwb Reading.
Mewn datganiad ddydd Mawrth fe wnaeth Reading gefnogi'r penderfyniad yn ymwneud â "dau achos ynysig o sarhau hiliol".
Meddai'r datganiad: "O ganlyniad i ddatganiadau gafodd eu gwneud i'r heddlu y prynhawn hwnnw, penderfynwyd fod digon o dystiolaeth i arestio pedwar o gefnogwyr Caerdydd am sylwadau hiliol honedig... er mwyn cyfiawnhau arestio mae angen sail rhesymol.
"Mae Heddlu Thames Valley yn parhau i ymchwilio ac fe fyddwn yn parhau i gynorthwyo'r awdurdodau gyda'r ymchwiliadau."
Brynhawn Llun gofynnodd Caerdydd am ymddiheuriad gan honni fod eu cefnogwyr wedi cael eu labelu fel hiliol.
Dywedodd datganiad clwb Caerdydd: "Roedd modd clywed yr iaith yma yn dod o gefnogwyr y ddau glwb, ac o natur gwrth-Gymreig a gwrth-Saesnig.
"Rydyn ni'n siomedig iawn bod Clwb Pêl-droed Reading wedi dewis labelu'r ymddygiad yma fel un hiliol a homoffobig (ble does dim tystiolaeth wedi bod).
"Rydyn ni hefyd yn cwestiynu'r camau a gymeron nhw ar y dydd, ac yn croesawu ymchwiliad i'r mater er budd y ddau glwb ac i bêl-droed ym Mhrydain."
Mae Reading wedi addo adolygu'r penderfyniad i wneud datganiad cyhoeddus yn ystod y gêm ac wedi ymddiheuro i'r mwyafrif o gefnogwyr Caerdydd oedd yn y gêm "oedd ddim yn rhan o'r sarhau hiliol ac oedd yn teimlo eu bod wedi eu pardduo gan y cyhoeddiad" yn Stadiwm Madejski.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn ymchwilio i'r mater ac wedi gofyn i'r ddau glwb am eu sylwadau.
Bydd y ddau glwb yn cwrdd eto yn y Bencampwriaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener, ac eto yn ailchwarae'r gêm yng Nghwpan FA Lloegr y nos Fawrth ganlynol, 4 Chwefror.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2020