Atal gofal rhai cleifion iechyd meddwl wedi adolygiad

  • Cyhoeddwyd
Ayla Haines gydag anaf i'w phenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae mam Ayla Haines yn ofni y gallai fod wedi achosi niwed i'w hymennydd trwu guro'i phen yn erbyn wal yn yr uned

Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi atal rhoi rhai cleifion iechyd meddwl dan ofal darparwr arbenigol yn Lloegr dros dro yn dilyn adolygiad.

Mae elusen St Andrew's Healthcare, sy'n darparu gwasanaeth i fyrddau iechyd Cymru gan ddelio ag achosion heriol, bellach yn destun "lefel uwch o fonitro", yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywed yr elusen eu bod yn "hyderus" o ddelio â'r pryderon yn fuan.

Mae teulu claf 27 oed o Sir Gaerfyrddin wedi gofyn am gyngor cyfreithiol yn sgil pryderon ynghylch ei gofal.

Mae problemau iechyd Ayla Haines o Lansteffan yn cynnwys anorecsia ac anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD).

Fe waethygodd ei chyflwr corfforol "yn eithafol" ar ôl cyrraedd un o ysbytai preifat St Andrews yn 2016, yn ôl ei mam, Jane Haines.

'Colli pob gobaith'

Clywodd BBC Wales Live bod yr ysbyty yn Northampton ymhlith y safleoedd sy'n destun adolygiad, ond nid yw'n glir os yw'r safleoedd yn cynnwys ward Ayla.

Mae Mrs Haines yn cymryd camau cyfreithiol ynghylch triniaeth ei merch wedi iddi lwyddo i anafu ei hun sawl gwaith.

"Ein pryder mwyaf ar y funud yw haint ar ei braich," meddai. "Mi fwytodd rhan o'i braich ac mae'n rhoi gwrthrychau ynddo.

"Ddiwedd y llynedd bu'n rhaid tynnu gangrene o'i braich... mae hynny'n dal yn mynd rhagddo er un cwrs o wrthfiotigau."

Daeth achos Ayla i amlygrwydd fis Ebrill y llynedd pan ddywedwyd ei bod eisiau marw gymaint nes ei bod wedi llyncu brwsh dannedd.

"Mae hi eisiau marw nawr, mae hi wedi colli pob gobaith," meddai Mrs Haines, gan ychwanegu mai'r bwriad, trwy ymwthio gwrthrychau i'w chorff, "yw cael haint [fel sepsis] sy'n ei lladd".

"Mae hi mewn cyflwr enbydus, yn gorfforol ac yn feddyliol."

Her gyfreithiol bosib

Dywedodd Hannah Mason, o gwmni cyfreithiol Simpson Millar, ei bod yn ymchwilio i sail bosib her gyfreithiol ynghylch gofal Ayla.

"Yn benodol, mae yna gwestiynau ynghylch y driniaeth i Ayla at gyflyrau corfforol," meddai, gan gynnwys a ddylid fod wedi tynnu'r brwsh dannedd y llyncodd.

"Rydym yn edrych i'r ffordd orau i herio'r broses gwneud penderfyniadau yn hyn o beth."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ayla Haines gyda'i nain a'i mam yn ystod ymweliad diweddar

19 oed oedd Ayla pan gafodd ei hanfon i uned seiciatryddol am y tro cyntaf, ac mae wedi treulio cyfnodau mewn sawl uned yng Nghymru cyn symud i uned ddiogelwch ganolig St Andrew's.

Yn gynharach ym mis Ionawr, dywedodd arolygwyr Comisiwn Safonau Gofal Lloegr bod yna "fethiannau mynych a systemig" yn arweinyddiaeth St Andrew's.

'Bownsio' cyfrifoldeb

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig ac AC lleol Ayla, Angela Burns wedi ymweld â hi yn Northampton yn ddiweddar.

Mae'r achos, meddai, yn tanlinellu'r problemau o ran goruchwylio gofal cleifion iechyd meddwl tu hwnt i Gymru.

"Mae'n anodd iawn i gael unrhyw un i gymryd cyfrifoldeb," meddai Ms Burns.

"Bu'n rhaid imi ofyn i'r gweinidog iechyd ymyrryd mewn 'gêm bêl-droed' rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy'n comisiynu'r math yma o wasanaethau... roedden nhw'n ei bownsio'n ôl ac ymlaen yn nhermau pwy yn y pen draw oedd yn gyfrifol amdani."

Ychwanegodd Ms Burns bod Ayla wedi cael ei gosod yn yr uned gyda'r disgwyliad y byddai'n cael math arbennig o driniaeth a'r gobaith y byddai'n gwella.

"A bod yn blaen, ddigwyddodd ddim o'r pethau hynny," meddai. "Mae hi wedi mynd gam yn ôl yn nhermau iechyd, ond yn bwysicach fyth, does dim amcan o unrhyw fath."

Disgrifiad o’r llun,

Mae archwiliwyr wedi codi nifer o bryderon ynghylch y ffordd y mae St Andrew's Healthcare yn cael ei redeg

Cafodd gwasanaethau St Andrew's eu hadolygu'r wythnos ddiwethaf, medd Llywodraeth Cymru.

Dywed yr elusen bod y tîm arweiniol wedi newid yn ddiweddar a'u bod yn "ymrwymo i sicrhau gwelliannau".

"Rydym yn cydnabod bod GIG Cymru wedi atal mynediadau newydd dros dro i nifer fach o'r wardiau, wedi archwiliadau arferol diweddar," meddai llefarydd.

"Rydym wedi cynnal trafodaethau gyda nhw'r wythnos yma ac rydym yn hyderus bydd modd i ni ddatrys eu pryderon yn gyflym."

Dywed yr elusen nad yw'n gwneud sylw cyhoeddus ynghylch achosion unigol ond bod ymrrwymiad i "symud gofal yn agosach at adref" ble bynnag mae hynny'n bosib.

Ychwanegodd y llefarydd bod angen gwasanaeth arbenigol mewn lleoliad diogel ar gyfer "cleifion iechyd meddwl mwyaf cymhleth y wlad", sy'n "peri risg i'w hunain neu i eraill".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda nad yw'n trafod achosion unigol, ond eu bod yn ymwybodol o bryderon teulu Ayla Haines, yn adolygu unrhyw bryderon sy'n codi, ac yn ymwybodol o'r penderfyniad diweddar i atal rhai o wasanaethau St Andrew's.

Ychwanegodd eu Cyfarwyddwr Nyrsio, Safon a Phrofiad Cleifion, Mandy Rayani, eu bod yn cydweithio'n agos gyda'r uned gomisiynu genedlaethol "sy'n monitro safon a darpariaeth gwasanaethau'r adnodd yma ar ein rhan".