Gorchymyn llys i wyrdroi gwaharddiad AC Ceidwadol

  • Cyhoeddwyd
Nick RamsayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nick Ramsay ei wahardd o'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad ddechrau Ionawr

Mae llys wedi dyfarnu y dylid codi'r gwaharddiad ar Nick Ramsay AC o'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad tra'i fod yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y blaid.

Mae AC Mynwy yn mynd ag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies i'r gyfraith gan ddadlau ei fod wedi mynd yn groes i gyfansoddiad y blaid.

Cafodd Mr Ramsay ei wahardd ar ôl cael ei arestio Ddydd Calan eleni, cyn cael ei ryddhau'n ddigyhuddiad.

Ddydd Gwener fe wnaeth yr Uchel Lys ym Mryste orchymyn Mr Davies i godi'r gwaharddiad nes bydd yr achos yn cael ei gynnal.

Ond dywedodd y Barnwr Jonathan Russen QC na fyddai'n ymyrryd ym mhroses ddisgyblu'r blaid, sy'n golygu y gallai'r blaid ddechrau camau disgyblu newydd yn erbyn Mr Ramsay.

Gwrthododd y barnwr gais i ohirio'r gwrandawiad, a chaniatáu gorchymyn dros dro, gan ddyfarnu y bydd Mr Ramsay'n cael ei holl gostau'n ôl petai ei achos yn llwyddo.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud na fyddan nhw'n gwneud sylw ar y dyfarniad.

'Dim gwybodaeth, dim cais am ddatganiad'

Dywedodd David Lock QC, ar ran Mr Ramsay, bod y rheolau wedi'u torri gan fod yr AC heb gael gwybod bod camau disgyblu posib yn ei erbyn wedi cael eu cyfeirio at y grŵp, a bod dim hawl gan Mr Davies i weithredu heb gefnogaeth holl aelodau'r grŵp.

Mae Mr Ramsay'n dweud nad yw erioed wedi cael cais i wneud datganiad, a'i fod yn ymwybodol bod ei achos erioed wedi cael ei drafod gan holl aelodau'r grŵp.

Wedi'r gwrandawiad, dywedodd Mr Ramsay ei fod "yn siomedig bod rhaid dod i'r llys heddiw i gael y canlyniad yma", a'i fod yn gobeithio "taw dyma'r tro olaf bydd rhaid dod o flaen barnwr er mwyn cael cyflawni fy nyletswyddau etholaethol a chyhoeddus".

Ychwanegodd ei fod "yn hollol ymroddgar i gefnogi fy nghydweithwyr Ceidwadol a'r blaid ehangach".

Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Ramsay'n honni bod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies wedi mynd yn groes i gyfansoddiad y blaid

Ychwanegodd Mr Lock bod y mater yn un brys oherwydd bod gan Mr Ramsay "gyfrifoldebau pwysig fel aelod etholedig o gynulliad Cymru, sy'n cael eu rhwystro gan ei waharddiad anghyfreithlon o'r grŵp yma".

"Ymdrechodd i weithio o fewn y Blaid Geidwadol i ddatrys y sefyllfa mewn ffordd synhwyrol ond... roedd hyn, yn y pen draw, yn amhosib," meddai.

Clywodd y llys hefyd bod Mr Ramsay "ar ben ei dennyn a ddim yn gwybod sut i ddod â sefyllfa annatrys i ben".

Gofynnodd Richard Price QC, ar ran Mr Davies, i ohirio'r gwrandawiad, gan ddweud eu bod wedi cael llai na 24 o rybudd i baratoi ar ei gyfer.

Dywedodd: "Mae'r diffynnydd ac aelodau eraill y grŵp oedd yn rhan o'r broses yma, yn bryderus eithriadol bod yna risg pe bai'r cais i ohirio'n cael ei wrthod, byddai'r mater yma'n cael ei ddyfarnu ar sail yr achwynydd yn unig, sy'n gwbl anfoddhaol ac annheg."