Beth yw'r enw Cymraeg am hamstring, groin a collarbone...?
- Cyhoeddwyd
Mae rygbi yn gamp sydd yn llawn anafiadau, ac er mor anhygoel ac arwrol yw tîm rygbi Cymru, dydyn nhw methu osgoi cael eu hanafu.
Nid yw Jonathan Davies, Gareth Anscombe, Hallam Amos, James Davies, Rhys Patchell na Tomas Francis yn y garfan ar gyfer gemau'r Chwe Gwlad eleni oherwydd anafiadau.
Fodd bynnag, rydyn ni'n croesawu Talupe Faletau nôl ar y cae am y tro cyntaf ers Chwe Gwlad 2018, yn dilyn casgliad poenus o anafiadau amrywiol.
Rydyn ni'n mawr obeithio mai dyma fydd ei diwedd hi o ran anafiadau, ond rhag ofn, dyma ganllaw defnyddiol i'r math o anafiadau sydd yn gysylltiedig â'r gêm.
Llinyn y gar - 'Hamstring'
Anaf i linyn y gar yw straen neu rwyg i'r gewynnau/tendonau ar gefn y clun.
Bu'n rhaid i Josh Navidi adael Cwpan y Byd 2019 yn Japan, heb gael chwarae yn rownd gynderfynol y bencampwriaeth wedi iddo anafu llinyn y gar, ac mae'r un anaf yn golygu ei bod hi'n edrych fel na fydd ddigon iach i chwarae yn nhair gêm gyntaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Cyfergyd - 'Concussion'
Mae cyfergyd yn cael ei achosi gan ergyd i'r pen, ac mae'n gallu achosi cur pen, teimlo'n sâl neu weithiau gall y chwaraewr fynd yn anymwybodol.
Cafodd Jamie Roberts ei anafu pan darodd ei ben yn erbyn pen capten Awstralia, Stirling Mortlock yn 2008. Parhaodd Jamie i chwarae am 16 munud arall, er ei fod yn diodde' o gyfergyd. Pan aeth i'r ysbyty, cafodd wybod fod ganddo grac yn ei benglog.
Croth/Bola y goes - 'Calf'
Mae anaf i groth neu fola y goes yn gyffredin iawn ymhlith chwaraewyr rygbi, yn arbennig o ganlyniad i neidio neu newid cyfeiriad yn gyflym.
Ond nid dim ond chwaraewyr rygbi sydd yn medru dioddef anaf o'r fath. Method Nigel Owens ar y cyfle i ddyfarnu rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan, oherwydd iddo anafu croth ei goes yn ystod y gêm gynderfynol rhwng Lloegr a Seland Newydd.
Clust colifflŵar/dew - 'Cauliflower ear'
Pan mae clustiau yn cael eu taro yn aml, mae gwaed a hylif yn dechrau casglu ar dop y glust, gan ei gwneud yn dew ac yn ddi-siâp. Mae chwaraewyr rygbi a bocswyr yn aml â chlustiau fel hyn. Mae'n debyg fod modd defnyddio gelen (leech) i sugno'r gwaed o'r glust a lleihau'r chwydd.
Dydy clustiau chwaraewyr presennol Cymru ddim yn rhy ddrwg ar y cyfan oherwydd bod nifer yn gwisgo capiau, neu dâp fel y capten Alun Wyn Jones, ond efallai fod angen i Ken Owens gadw llygad ar ei glustiau o...
Cesail y forddwyd - 'Groin'
Gall anaf i gesail y forddwyd - un o'r cyhyrau sy'n helpu i symud y goes - fod yn hynod o boenus.
Ym mis Medi 2005, cafodd Shane Williams lawdriniaeth i wella anaf i gesail y forddwyd. Yn ffodus, roedd yn ôl ar y cae erbyn gemau'r Hydref, ac roedd cais ganddo yn y gêm yn erbyn Awstralia yn allweddol i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn y Wallabies ers 1987.
Datgymalu bysedd - 'Finger dislocation'
Mae yna lawer o rannau o'r corff all ddatgymalu mewn gêm rygbi, ond y mwyaf cyffredin yw'r bysedd, wrth i'r bêl daro yn eu herbyn, neu wrth iddyn nhw cael eu sathru gan rhyw brop mawr.
Yn 2007 mewn gêm yn erbyn De Affrica, rhedodd James Hook i ochr y cae i gael rhywun i osod ei fys yn ôl i'w le, ac yna cario 'mlaen â'r gêm. Wrth chwarae gyda Gleision Caerdydd, datgymalodd Sam Warburton ei fys yn 2012, a rhannu'r llun uchod o'i anaf â'r byd ar Twitter.
Tennyn croesffurf y ben-glin - 'ACL (Anterior cruciate ligament)'
Mae'r tennyn croesffurf tu ôl i badell y ben-glin (kneecap) ac yn sefydlogi'r cymal.
Dyma'r anaf dorrodd galonnau cefnogwyr Cymru pan anafodd Leigh Halfpenny ei ben-glin yn y gêm yn erbyn yr Eidal, bythefnos cyn dechrau Cwpan y Byd 2015. Doedd Jonathan Davies chwaith ddim digon iach i chwarae yn y bencampwriaeth, a hynny oherwydd yr un anaf.
Pont yr ysgwydd - 'Collarbone'
Mae torri pont yr ysgwydd yn eithaf cyffredin mewn gêm rygbi, wrth i lawer o bwysau gael ei roi ar ysgwyddau'r chwaraewyr.
Cafodd Barry John ei gynnwys yng ngharfan y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 1968 ond, yn anffodus, torrodd bont ei ysgwydd a daeth ei daith i ben ar ôl dim ond un gêm brawf.
Gweyllen y ffêr - 'Achilles tendon'
Gall gormod o rym arno achosi i weyllen y ffêr rwygo.
Dyma beth ddigwyddodd i Samson Lee yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015. Yn ffodus, llwyddodd i adfer ei ffitrwydd ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd.
Byddwch yn ofalus ar y cae 'na bois!
Hefyd o ddiddordeb: