Cap cyntaf i McNicholl a North yn y canol i herio'r Eidal

  • Cyhoeddwyd
Johnny McNichollFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni wnaeth Johnny McNicholl ennill cap am y gêm yn erbyn y Barbariad am nad oedd hi'n gêm swyddogol dan ganllawiau World Rugby

Bydd Johnny McNicholl yn ennill ei gap cyntaf i Gymru ddydd Sadwrn, wrth i George North symud i'r canol ar gyfer gêm agoriadol y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Eidal.

Er i McNicholl, sy'n gymwys i chwarae dros Gymru am iddo fyw yma am dair blynedd, chwarae yn erbyn y Barbariaid fis Tachwedd, doedd honno ddim yn gêm swyddogol dan ganllawiau World Rugby.

Dyma fydd y pumed tro i North, sydd â 92 cap, ddechrau fel canolwr i Gymru, a hynny oherwydd anafiadau i chwaraewyr fel Jonathan Davies, Owen Watkin a Willis Halaholo.

Fe allai canolwr Saracens, Nick Tompkins ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc, tra bo'r mewnwr Rhys Webb hefyd ymysg yr eilyddion.

Tomos Williams sy'n dechrau fel mewnwr wedi i Gareth Davies fethu â gwella o anaf.

Y gêm yn erbyn Yr Eidal fydd gêm brawf gyntaf Wayne Pivac ers iddo olynu Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru.

Disgrifiad,

Cyn-chwaraewr Cymru, Garan Evans sy'n edrych ymlaen i deyrnasiad Wayne Pivac

Dydy Webb ddim wedi chwarae dros Gymru ers Rhagfyr 2017, a hynny am iddo benderfynu gadael am Ffrainc i chwarae dros Toulon.

Ond mae ar gael i Gymru eto yn ystod y Chwe Gwlad wedi iddo gytuno i ailymuno â'r Gweilch ar ddiwedd y tymor.

Mae Tompkins, 24, yn gymwys i gynrychioli Cymru trwy ei nain, gafodd ei geni yn Wrecsam.

Mae Taulupe Faletau yn dychwelyd fel wythwr i chwarae ei gêm gyntaf dros Gymru ers bron i ddwy flynedd oherwydd anafiadau.

Aaron Wainwright a Justin Tipuric sy'n ymuno gydag ef yn y rheng-ôl, wedi iddi ddod yn amlwg y bydd Josh Navidi yn colli tair gêm gynta'r bencampwriaeth gydag anaf i'w goes.

Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Principality am 14:15 brynhawn Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai canolwr Saracens, Nick Tompkins ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; Johnny McNicholl, George North, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Tomos Williams; Wyn Jones, Ken Owens, Dillon Lewis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capt), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ryan Elias, Rob Evans, Leon Brown, Cory Hill, Ross Moriarty, Rhys Webb, Jarrod Evans, Nick Tompkins.

Tîm Yr Eidal

Matteo Minozzi; Leonardo Sarto, Luca Morisi, Carlo Canna, Mattia Bellini; Tommaso Allan, Callum Braley; Andrea Lovotti, Luca Bigi (capt), Giosuè Zilocchi, Alessandro Zanni, Niccolò Cannone, Jake Polledri, Sebastian Negri, Abraham Steyn.

Eilyddion: Federico Zani, Danilo Fischetti, Marco Riccioni, Dean Budd, Marco Lazzaroni, Giovanni Licata, Guglielmo Palazzani, Jayden Hayward.

Amserlen y gemau

Sadwrn 1 Chwefror am 14:15 - Cymru v Yr Eidal

Sadwrn 8 Chwefror am 14:15 - Iwerddon v Cymru

Sadwrn 22 Chwefror am 16:45 - Cymru v Ffrainc

Sadwrn 7 Mawrth am 16:45 - Lloegr v Cymru

Sadwrn 14 Mawrth am 14:15 - Cymru v Yr Alban