Ffilm newydd yn tynnu sylw at un o 'arwyr anhysbys' Cymru

  • Cyhoeddwyd
James Norton yn Mr JonesFfynhonnell y llun, Signature Entertainment
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r actor James Norton yn siarad Cymraeg mewn cwpl o olygfeydd byr yn Mr Jones

Bwriad ffilm newydd am y newyddiadurwr Cymreig, Gareth Jones, yw tynnu sylw at un o "arwyr anhysbys" Cymru, meddai'r cyfarwyddwr.

Mae'r ffilm Mr Jones yn serennu James Norton fel y gohebydd wnaeth ddatgelu newyn yn Wcráin yn y 1930au.

Dywedodd y cyfarwyddwr Pwylaidd, Agnieszka Holland, sydd wedi'i henwebu am Oscar am ffilm yn y gorffennol, ei bod yn teimlo "balchder" wrth rannu stori Gareth Jones.

Mae'r ffilm yn dangos effaith y newyn, a elwir yr Holodomor, ac mae'n trafod ymdrechion y Sofietiaid i guddio'r gwirionedd.

Roedd Gareth Jones yn dod o'r Barri ym Mro Morgannwg, ac fel newyddiadurwr i'r Western Mail fe lwyddodd i gyrraedd Wcráin i weld effaith y newyn a orfodwyd gan Stalin.

Bu farw Jones wrth adrodd ar stori wahanol ar drothwy ei ben-blwydd yn 30 oed.

Cafodd ei adroddiadau cywir o'r newyn yn Wcráin ei danseilio'n gyhoeddus gan newyddiadurwr y New York Times, Walter Duranty, ac mae'r ffilm yn dangos sut roedd rhaid i Jones frwydro i ledaenu'r gwir.

Roedd yr Holodomor yn gyfrifol am ladd miliynau o bobl yn yr Wcráin Sofietaidd yn y 1930au cynnar. Bellach mae'n cael ei gydnabod fel gweithred o hil-laddiad (genocide).

Disgrifiad o’r llun,

Agnieszka Holland sy'n gyfrifol am ddod â stori Gareth Jones i'r sgrin fawr

Dywedodd Ms Holland wrth BBC Cymru: "Dwi'n gobeithio bydd y ffilm yn codi ymwybyddiaeth am Gareth Jones.

"Rwy'n teimlo balchder, fel rhywun o Wlad Pwyl, fy mod yn gallu cyflwyno'r arwr anhysbys yma i bobl Cymru. Arwr nad yw'n adnabyddus iawn, o leiaf.

"Ac mae e'n berson dangosodd dewrder, deallusrwydd a dyfalbarhad a allai fod yn fodel i lawer o newyddiadurwyr."

Yn y ffilm mae Gareth Jones i'w weld yn gwneud trefniadau i deithio i Foscow ar ôl rhagweld bod Hitler yn paratoi ar gyfer rhyfel yn Ewrop.

Er iddo ymweld â Rwsia i drio cyfweld â Stalin am y bygythiad gan y Natsïaid, mae'n dilyn awgrym am stori yn Wcráin lle mae'n dyst i'r newyn.

"Roedd e'n chwilfrydig, yn uchelgeisiol ac eisiau darganfod y gwir," meddai Ms Holland.

"Pan welodd realiti'r trasiedi - miliynau o bobl yn marw o newyn - fe ddaeth yn negesydd ar gyfer y bobl hynny.

"Ac roedd yn teimlo mai ei ddyletswydd, beth bynnag oedd hynny'n ei olygu, oedd cyflwyno'r wybodaeth hon a'r gwirionedd i'r byd i gyd. Dyna dwi eisiau i bobl ei wybod am Gareth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffilm allan ar 7 Chwefror

Mae disgynyddion Gareth Jones wedi ymdrechu ers amser maith i dynnu sylw at ei gyfraniad at ddatgelu'r gwir am newyn Stalin yn Wcráin.

Mae ei bapurau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac mae wedi bod yn destun llyfrau a rhaglenni dogfen.

Mae ei or-nai Graham Colley wedi cefnogi cynhyrchiad y ffilm.

"Mae ei weld yn cael ei bortreadu, hyd yn oed mewn ffordd ddramatig, yn ardderchog oherwydd ei fod yn symud y stori ymlaen, ac yn gwneud i bobl adnabod y dyn a'i waith," meddai.

"Fe wnaeth e lwyddo i wneud cymaint, er iddo fyw bywyd mor fyr."

Cymraeg yn y ffilm

Mae'r ffilm hefyd yn serennu actores The Crown, Vanessa Kirby, ochr yn ochr ag actorion Cymreig megis Celyn Jones a Julian Lewis Jones.

Yn ogystal â siarad ag acen Gymraeg ysgafn, mae James Norton yn siarad deialog Cymraeg mewn cwpl o olygfeydd byr wrth iddo ymweld â theulu yng Nghymru.

Tra bod y ffilm yn tynnu sylw at wreiddiau Jones a'i ddewrder fel newyddiadurwr, mae Agnieszka Holland yn gobeithio y bydd hi hefyd yn dangos peryglon propaganda.

"Mae'n cael ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd fel gyda 'newyddion ffug' a 'realiti amgen' i gyd-fynd â meddylfryd gwleidyddol. Mae hynny'n gallu bod yn beryglus iawn."

Mae Mr Jones yn cael ei ryddhau mewn rhai sinemâu ac ar lwyfannau digidol ar 7 Chwefror.