Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Reading

  • Cyhoeddwyd
Cardiff City v ReadingFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gô Callum Paterson yn sicrhau pwynt i Gaerdydd adref yn erbyn Reading

Mae'r Adar Gleision wedi cael gêm gyfartal arall yn erbyn Reading - y tro hwn yn y Bencampwriaeth.

Ddydd Sadwrn fe gafodd y ddau dîm gêm gyfartal 1-1 yn Stadiwm Madejski ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.

Nos Wener llwyddodd peniad Yakou Méïté i roi'r ymwelwyr ar y blaen ar ôl wyth munud ac fe barhaodd Reading un gôl ar y blaen tan chwarter olaf y gêm.

Wedi 70 munud daeth gôl i Callum Paterson wedi tafliad hir gan Will Vaulks.

Roedd yr Adar Gleision ar dân wedi hynny ond ni lwyddont i ychwanegu at y sgôr.

Yn ystod y gêm bu'n rhaid i un cefnogwr adael o ochr Reading i'r stadiwm wedi i gefnogwyr Caerdydd honni ei fod gwneud ystum sarhaus yn ystod hanner cyntaf y gêm.

Ffynhonnell y llun, Luke Walker
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r achos honedig yn Stadiwm Madjeski ddydd Sadwrn

Ddechrau'r wythnos roedd yna gadarnhad fod Heddlu Thames Valley yn ymchwilio i honiadau bod rhai o gefnogwyr Caerdydd wedi gweiddi sloganau hiliol yn ystod y gêm, ac fe gafodd pedwar o bobl eu harestio.

Brynhawn Llun gofynnodd Caerdydd am ymddiheuriad gan honni fod eu cefnogwyr wedi cael eu labelu fel hiliol.

Gwrthod ymddiheuro a wnaeth Reading ond mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn ymchwilio i'r mater ac wedi gofyn i'r ddau glwb am eu sylwadau.

Bydd y ddau dîm yn ailchwarae'r gêm yng Nghwpan FA Lloegr nos Fawrth, 4 Chwefror.