Caerdydd: Dyn mewn cyflwr difrifol wedi achos arall o drywanu
- Cyhoeddwyd
Bydd Heddlu'r De yn cael stopio a chwilio pobl mewn rhai ardaloedd yng Nghaerdydd ar ôl dau achos o drywanu yn y brifddinas o fewn 24 awr.
Cafodd dyn 33 oed ei gludo i'r ysbyty wedi digwyddiad am 02:23 yn Sgwâr Loudon, Trebiwt fore Sadwrn, 1 Chwefror.
Cafodd dyn arall 38 oed ei gymryd i'r ysbyty ar ôl cael ei drywanu ar Stryd Smeaton, Glan yr Afon tua 07:40 ddydd Gwener, 31 Ionawr.
Mae'r ddau bellach mewn cyflwr sefydlog.
Dywedodd Heddlu'r De nad oedd cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.
Mae'r hysbysiad Adran 60 yn rhoi'r hawl i'r heddlu stopio a chwilio pobl yn ardaloedd Trebiwt, Grangetown a Glan yr Afon.
Bydd yr hysbysiad yn parhau mewn grym tan 23:00 ddydd Sul, 2 Chwefror ar ôl i'r heddlu ymestyn y cyfnod.
Beth yw'r hysbysiad?
Mae'n galluogi unrhyw gwnstabl mewn iwnifform yn yr ardal honno i stopio a chwilio unrhyw gerddwr neu gerbyd am arfau tramgwyddus neu beryglus heb reswm da.
Mae Heddlu De Cymru wedi cynnal dros 11,000 o chwiliadau stopio a chwilio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - gyda dros 5,800 o'r rheini yn y brifddinas.
Ond mae'r drefn bresennol sydd ar waith yng Nghaerdydd yn golygu y gall swyddogion atal unrhyw un yn yr ardaloedd hynny, nid dim ond pobl maen nhw'n teimlo sy'n ymddwyn yn amheus.