Pryderon wrth i safleoedd claddu brinhau ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r prinder lle claddu yng Nghymru "yn argyfwng", medd yr Eglwys yng Nghymru, wrth i ffigyrau diweddar ddangos bod dwy ran o dair o'u mynwentydd yn llawn.
Mae mynwentydd Cymru yn cael eu rheoli gan awdurdodau lleol, eglwysi neu gynghorau cymuned.
Dywed Cyngor Merthyr Tudful nad oes ganddynt le a'u bod yn "adfeddiannu" beddau sy'n bodoli yn barod.
Ond mae gan y cyngor reolau pendant - rhaid i'r bedd fod wedi peidio cael cofeb ac mae'n ofynnol hefyd mai dim ond un person sydd wedi'i gladdu yn y bedd a hynny dros 70 mlynedd yn ôl.
Os yw'r bedd yn cwrdd â'r gofynion, gall hyd at ddwy arch gael ei gosod uwchben yr hyn oedd yno eisoes.
Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful hefyd eu bod yn sicrhau nad ydynt yn amharu ar y "gweddillion gwreiddiol" yn ystod y broses.
Mae "adfeddiannu" bedd yn wahanol i ailddefnyddio bedd.
Mae ailddefnyddio bedd yn golygu codi'r gweddillion gwreiddiol.
Mae'r bedd wedyn yn cael ei wneud yn ddyfnach a'r gweddillion yn cael eu hailgladdu yn is i lawr - does yr un awdurdod lleol yng Nghymru wedi cael yr hawl i wneud hynny a rhaid cael trwydded arbennig gan yr eglwys neu'r ysgrifennydd gwladol.
Wrth "adfeddiannu" bedd dyw'r gweddillion gwreiddiol ddim yn cael eu symud - yr hyn sy'n cael ei wneud yw defnyddio'r gofod uwchben ar gyfer claddedigaeth newydd.
Mae'r Sefydliad sy'n rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM) yn argymell y dylid ailddefnyddio beddau.
Ond i wneud hynny rhaid bod teulu'r ymadawedig yn cydymffurfio ac mae'n rhaid bod y sawl sydd wedi'i gladdu yno wedi marw ers 75 mlynedd.
Dywedodd prif weithredwr yr ICCM, Julie Dunk, bod yr amser wedi dod "lle mae'n rhaid cael sgyrsiau anodd am y dyfodol".
Dywed yr Eglwys yng Nghymru bod y sefyllfa yn "anghynaladwy" ac nad ydynt yn gwrthwynebu ailddefnyddio beddau cyn belled â bod hynny yn digwydd mewn modd sensitif.
Dywedodd Lyn Cadwalader, prif weithredwr Un Llais Cymru, y sefydliad sy'n cynrychioli cynghorau cymuned, bod rhai aelodau yn poeni am ddiffyg lle claddu a'i bod fel sefydliad yn ystyried gofyn barn yr aelodau am ailddefnyddio beddau.
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth y DU: "Ry'n ar hyn o bryd yn ystyried a oes angen gweithredu i ddelio â phrinder llefydd claddu mewn rhai ardaloedd.
"Mae'n fater sensitif a rhaid ystyried unrhyw newid yn ofalus iawn."
Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru fod y nifer o lefydd claddu sydd ar gael yn amrywio'n fawr o sir i sir.
Y sefyllfa bresennol ym mynwentydd cynghorau Cymru
Wedi ei seilio ar y ffigyrau diweddaraf sydd wedi cael eu darparu gan awdurdodau lleol.
Dywedodd cynghorau Bro Morgannwg ac Ynys Môn nad oedden nhw yn gweithredu unrhyw safleoedd claddu a does gan Gyngor Caerffili ddim gwybodaeth am niferoedd safleoedd claddu;
Pen-y-bont: 4,015 lle mewn mynwentydd cyngor yn y sir;
Blaenau Gwent: 1,440 lle mewn mynwentydd cyngor yn y sir;
Caerdydd: 5,040 lle mewn tair mynwent;
Ceredigion: 3,414 lle mewn pum mynwent;
Sir Ddinbych: Tua 1,900 o lefydd mewn saith mynwent neu digon o ofod am 35 mlynedd;
Sir y Fflint: 5,819 mewn mynwentydd cyngor yn y sir;
Sir Fynwy: 2,655 mewn tair mynwent;
Casnewydd: Digon o le hyd at 10 mlynedd ym mynwentydd y cyngor sir;
Torfaen: 2,226 lle mewn mynwentydd cyngor yn y sir;
Wrecsam: 1,200 lle mewn mynwentydd cyngor yn y sir;
Conwy: 918 lle ym mynwentydd cyngor yn y sir;
Sir Benfro: 4,722 mewn 11 mynwent;
Powys: 4,500 lle ym mynwentydd cyngor yn y sir;
Sir Caerfyrddin: Llefydd am 10 mlynedd ym mynwentydd cyngor yn y sir;
Merthyr: Dim lle;
Abertawe: Mae gan fynwentydd sydd ddim yn llawn ofod ar gyfer rhwng 24 a 60 mlynedd;
Gwynedd: 2,600 lle mewn 16 mynwent cyngor;
Castell Nedd Port Talbot: 1250 lle ym mynwentydd cyngor yn y sir;
Rhondda Cynon Taf: Mae gan y rhan fwyaf o fynwentydd le ar gyfer y dyfodol agos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2012