Cyhoeddi enw dyn gafodd ei ganfod yn farw yn Llangefni

  • Cyhoeddwyd
Hen siop losin Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr heddlu yn trin y farwolaeth fel un heb esboniad

Mae crwner gogledd Cymru wedi cadarnhau enw dyn gafodd ei ganfod yn farw mewn hen siop losin yn Llangefni fis diwethaf.

Cafodd corff Paul Daniel Hughes, 35, ei ddarganfod ar y 10 Ionawr 2020 yn adeilad gwag ar Stryd y Capel.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bryd hynny ei fod yn trin y farwolaeth fel un heb esboniad.

Mae'r crwner bellach wedi agor ymchwiliad mewn i'w farwolaeth.