Palmentydd Pwllheli yn 'peryglu bywydau'

  • Cyhoeddwyd
Palmant
Disgrifiad o’r llun,

Y palmant ar Stryd y Moch ym Mhwllheli

Mae 'na alw ar Gyngor Gwynedd i wella palmentydd ym Mhwllheli ar ôl i ddynes leol gael anafiadau drwg i'w phen wedi iddi ddisgyn ar un o strydoedd y dref.

Yn ôl y cyngor, maen nhw wedi ystyried nifer o opsiynau yn y gorffennol ac maen nhw'n barod i drafod y mater ymhellach gyda'r cyngor tref.

Roedd Mary Rees, 68, yn cerdded ar Stryd y Moch tua 11:00 fore Sadwrn pan faglodd ar bigyn yn y pafin a tharo ei phen ar y llawr.

Cafodd anafiadau i'w phen a chafodd ei chludo i'r ysbyty am driniaeth.

'Y pafinau yn warthus'

Dywedodd Mary Rees: "O'n i'n mynd i weld fy ffrind a nes i faglu wrth ymyl caffi Pili Palas yn dre'. 'Naeth rywun ddod ata' i a deud bod fi'n gwaedu.

"Fuo'n rhaid i mi fynd i Ysbyty Bryn Beryl i gael pwythau ac wedyn o'dd rhaid i fi fynd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn y diwedd ac o'n i yna tan tua 23:00. Dwi'n teimlo fel ffŵl am be' ddigwyddodd. 'Mond cerdded lawr y pafin o'n i, a darn bach o'dd yn sticio fyny.

"Ond es i efo'n ffrind wedyn i ddangos yn union be' 'naeth ddigwydd ac o'n i bron â baglu dros yr un lle, er o'n i'n gw'bod bod o yna. O'dd y sgidia yma ar fy nhraed - doedda' nhw ddim yn 'sgidiau gwirion na dim, ac o'n i bron â disgyn yna eto. Ma' angen g'neud y pafinau 'ma, ma' nhw'n warthus.

"'Swn i'n licio i'r stryd gael ei g'neud yn un ffordd, fel y bysa nhw'n gallu lledu'r pafin 'chydig bach yn fwy a fysa hynna'n osgoi damweiniau fel hyn."

Ffynhonnell y llun, Mary Elizabeth Rees/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Mary Elizabeth Rees ar ôl derbyn triniaeth am yr anaf i'w phen

Ers sawl blwyddyn mae 'na bryder ymhlith y gymuned a chynghorwyr lleol am gyflwr palmentydd y dref, yn enwedig yn Stryd y Moch lle mae'r pafin yn gul iawn mewn mannau.

Mae'n un o brif strydoedd y dref â cherbydau yn teithio ar ei hyd i'r ddau gyfeiriad, gyda nifer o lorïau yn eu plith.

Yn ôl trigolion lleol, mae pobl sydd mewn cadeiriau olwyn neu'n gwthio plentyn mewn coets yn gorfod camu i'r ffordd er mwyn pasio mewn ambell fan.

Yn ôl Karen Rees-Roberts, merch Mary, nid dyma'r tro cyntaf i ddamwain ddigwydd ar y ffordd.

"Mae'n ddamwain sy'n barod i ddigwydd," meddai. "Mae 'na gymaint wedi disgyn yn yr union 'run lle â mam, ond does 'na neb 'di g'neud cwyn o'r blaen a ma' pawb jest wedi codi a mynd adra.

"Ma'r ddynes sy'n rhedeg y caffi wedi ffonio'r ambiwlans lawer gwaith a does yna'm byd yn cael ei 'neud. Mae'n beryg i ni y bydd yn rhaid i rywun ella farw cyn y byddan nhw'n meddwl sortio'r broblem yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mary Elizabeth Rees a'i merch Karen Rees-Roberts

Yn 2016 cafodd deiseb ei dechrau gan aelod o Gyngor Tref Pwllheli yn galw ar y Cyngor Sir i sefydlu system unffordd yno.

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd gynnal astudiaeth ddichonoldeb yn edrych ar nifer o opsiynau i addasu llif traffig trwy ganol y dref, gan gynnwys cyflwyno system unffordd. Cafodd arddangosfa gyhoeddus ei chynnal ym mis Hydref 2016 oedd yn galluogi pobl a busnesau lleol i rannu eu barn ar yr opsiynau.

Ond yn dilyn adborth y cyhoedd, mi benderfynodd y cyngor na fyddai cyflwyno system unffordd ar Stryd y Moch yn lliniaru'r prif bryderon am balmentydd yn ardal canol y dref, ac y gallai arwain at gynyddu problemau ar strydoedd cyfagos.

Deiseb newydd

Yn dilyn damwain Mrs Rees, mae aelodau o'r cyngor tref yn bwriadu dechrau ail ddeiseb yn galw am wella diogelwch y palmentydd.

Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â'r ardal yn 2021, mae'r cynghorydd tref Dylan Bullard yn awyddus i rywbeth ddigwydd ar frys.

"Gan bod Pwllheli yn hen dref a strydoedd cul, mae hwn yn beryg," meddai. "Mae'n ofnadwy o gul, mae'r palmentydd 'di cracio a ma' pobl yn cael damweiniau yn fan hyn yn reit aml.

Ffynhonnell y llun, Mary Elizabeth Rees/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Yr anaf i law Mary Elizabeth Rees

"Ma'r gaeaf fel hyn yn adeg distaw ond ma' hi'n waeth ym mis Awst ac mae'r 'Steddfod yn dod yma flwyddyn nesa', felly 'da ni isho wbath wedi cael ei 'neud cyn hynna.

"'Da ni wedi cael trafodaeth efo'r cyngor o'r blaen am y mater. Ma' nhw 'di dod fyny efo syniadau ond s'nam byd 'di cael ei 'neud eto.

"Ond 'dwi'n gobeithio ar ôl beth sydd 'di digwydd i Mrs Rees bod nhw'n gweld 'wan bod o'n le peryg a bod angen g'neud 'wbath am y peth - rŵan hyn."

Cyngor Gwynedd

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod "swyddogion Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd y Cyngor wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda'r cyngor tref ers rhai blynyddoedd am lif y traffig yn yr ardal".

"O ganlyniad, nodwyd ar y pryd yn sgil adborth y cyhoedd, na fyddai cyflwyno system unffordd ar Stryd Moch yn lliniaru'r prif bryderon am balmentydd yn ardal canol y dref, ac y gallai cyflwyno trefn unffordd arwain at gynyddu pryderon traffig ar strydoedd cyfagos," meddai.

Er hyn, dywedodd y byddai swyddogion yn "hapus i drafod y mater ymhellach gyda'r cyngor tref".