Firws: Gofyn i ddynes 'adael' ei stondin yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Su Chu Lu
Disgrifiad o’r llun,

Su Chu Lu a'i stondin yn y farchnad

Cafoddd menyw yn Aberystwyth gais i adael ei stodin ym marchnad y dref wedi iddi ddychwelyd o wyliau yn Taiwan o achos ofnau am coronafeirws.

Dywedodd Su Chu Lu "nad ydw i'n firws", a bod y digwyddiad wedi peri loes iddi.

Roedd Ms Lu yn agor ei stondin yn Neuadd y Farchnad yn Aberystwyth pan ddaeth tri o stondinwyr eraill ati a dweud wrthi am adael yr adeilad er mwyn mynd i gwarantîn, meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y farchnad mai "lleiafrif" o fasnachwyr oedd yn gyfrifol.

Yn ôl un perchenog stondin, oedd ddim am roi ei enw, roedd masnachwyr oedd ddim yn gyfrifol am y sylwadau wedi derbyn sylwadau a llythyrau dirmygus eu hunain yn eu cyhuddo o fod yn hiliol.

Posteri

Mae rhai stondinau wedi codi posteri yn datgan eu cefnogaeth i Ms Lu, gan gynnwys David Gilbert, sy'n dweud fod y sefyllfa wedi bod yn un "warthus".

"Fe wnes i roi fy nghefnogaeth barhaus i Su Chu Lu yn syth...mae hyn wedi ei achosi gan leiafrif yn neuadd y farchnad," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Poster yn datgan cefnogaeth

Dywedodd Ms Lu: "Mae'n dros 1,000km i Taiwan dros dir, ond fe ddywedodd un dynes (oedd wedi gwrthwynebu ei phresenoldeb) fod 'hynny yn agos hefyd'.

"Roeddwn i am fynd i mewn i siarad gyda masnachwr arall, ond fe wnaeth gloi y drws a nid oedd am fy ngadael i mewn, ond dyna oedd ei eiddo ac felly mae ganddo'r rhyddid i fy ngwrthod.

"Y diwrnod canlynol fe wnaeth masnachwyr wneud sylwadau fel y dyliwn i aros adref, felly fe wnes i aros adref. Ac yna ar fy niwrnod cyntaf yn ôl fe ddes i mewn i baratoi ac fe wnaeth dyn ofyn i fi adael yr adeilad yn syth, gan ddweud 'fe allech chi roi pawb mewn perygl'.

Heb fod i China

Dywedodd Ms Lu ei bod wedi datgan yn eglur unwaith eto nad oedd hi wedi bod yn China, gan ychwanegu:

"Fe nes i ddweud 'na, does ganddo chi ddim hawl i ofyn i mi adael, dydw i ddim yn gadael yr adeilad os nad yw'r heddlu neu'r awdurdodau yn dod i fy ngorfodi.

"Roeddwn wedi fy ysgwyd ac roedd yn emosiynol iawn, ac rwy'n flin."

Mae Su Chu Lu wedi bod yn rhedeg stondin yn y farchnad yn Aberystwyth ers 15 mlynedd.

Dywedodd bod cyfarfod wedi ei gynnal i benderfynu os byddai Ms Lu yn cael caniatâd i ddod i'r adeilad, ond fe ddywedodd masnachwyr eraill nad oeddynt yn ymwybodol fod cyfarfod wedi bod.

Ychwanegodd Ms Lu: "Mae cymaint o achosion o'r firws wedi bod yng ngweddill y byd, felly pam wnaeth y masnachwr hwn fy nhargedu i? Does gen i ddim amheuaeth mai o achos fy nghenedlaetholdeb, o achos lliw fy nghroem, a dyna sy'n fy ngwneud yn hynod o anhapus am hyn.

"Beth am ddileu'r mater trist yma, fe allai faddau i'r masnachwyr sydd yn fy erbyn nawr yn llwyr, dydw i ddim am i hyn barhau i ddigwydd a dod â chasineb, ac rwyf am i bawb gyd-dynnu'n dda eto am ein bod mewn cymuned fach, does dim angen mwy o gasineb yn ein cymdeithas."

'Fe glywais weiddi'

Dywedodd Ashanti Snow sy'n rhedeg stondin yn y neuadd: "Fe glywais weiddi, roeddwn yn teimlo fod hyn yn annheg - roedden nhw'n gwahaniaethu. Rwy'n ei chefnogi - dydw i ddim yn hoffi gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd."

Dywedodd masnachwr arall oedd am aros yn ddienw nad oedd pawb o'r farchnad yn rhan o'r hyn ddigwyddodd, ac nad oedd y mater wedi ei drin yn y ffordd orau:

"Mae dwy ochr i bob stori bob tro, ac mae Su yn amlwg yn ypsét ond falle ei bod wedi derbyn y peth yn yr ysbryd anghywir.

"Rwy'n cytuno nad yw hyn wedi ei wneud yn y ffordd iawn ac rwy'n pryderu am ein diogelwch os yw pobl yn credu fod pawb yn rhan o hyn.

"Doedd pob un o'r masnachwyr ddim yn rhan o hyn, ond o'r rhai oedd â rhan, dydw i'n dal ddim yn credu eu bod yn hiliol."

Datganiad

Am gyfnod roedd datganiad ar dudalen Facebook Neuadd y Farchnad yn datgan fod rhai stondinwyr yn dioddef gyda chyflyrau iechyd ac y byddai unrhyw firws yn gallu cael effaith niweidiol difrifol.

Ychwanegodd y datganiad, sydd bellach wedi ei ddileu, fod rhai wedi tybio fod gan Ms Lu fwriad mynd i China ac fe ofynnwyd iddi fynd i gwarantîn.

"Ni allwn bwysleisio digon nad oes neb yn Neuadd y Farchnad yn hiliol ac nid yw cenedlaetholdeb Su'n rhan o hyn o gwbl.

"Rydym yn ymddiheuro'n fawr os yw ein pryderon wedi cael eu camddehongli" meddai'r datganiad.

Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Mawrth i drafod y mater.