Nick Ramsay'n dychwelyd i'w waith yn y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae aelod Ceidwadol blaenllaw yn y Cynulliad wedi dychwelyd i'w waith yn y Senedd am y tro cyntaf ers iddo gael ei arestio a'i ryddhau'n ddi-gyhuddiad.
Dychwelodd Nick Ramsay i fod yn gadeirydd ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun, a hynny am y tro cyntaf eleni.
Fe gafodd Mr Ramsay, sydd yn aelod dros Fynwy, ei wahardd o'i blaid a'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad yn dilyn cael ei arestio Ddydd Calan eleni, cyn cael ei ryddhau'n ddi-gyhuddiad.
Ddydd Gwener fe wnaeth llys ddyfarnu fod yn rhaid codi'r gwaharddiad arno o'r grŵp Ceidwadol tra'i fod yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y blaid.
Mae'n mynd ag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies i'r gyfraith gan ddadlau ei fod wedi mynd yn groes i gyfansoddiad y blaid.
Datganiad
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Mr Ramsay wrth BBC Cymru: "Rwy'n falch o fod yn ôl yn fy ngwaith yn y Cynulliad yn cynrychioli fy etholwyr ac yn gwneud y swydd gyhoeddus yr wyf wedi fy ethol i'w gwneud."
Fe wrthododd gais am gyfweliad, gan ychwanegu: "Ni fyddaf yn gwneud sylw pellach o achos proses gyfreithiol sydd yn mynd yn ei blaen".
Gofynnodd BBC Cymru i lefarydd ar ran Paul Davies am gadarnhad os oedd Mr Ramsay yn parhau wedi ei wahardd o'i blaid, ond ni ddaeth ymateb.
Rheolau
Dywedodd David Lock QC, ar ran Mr Ramsay yn yr Uchel Lys ddydd Gwener, bod y rheolau wedi'u torri gan fod yr AC heb gael gwybod bod camau disgyblu posib yn ei erbyn wedi cael eu cyfeirio at y grŵp, a bod dim hawl gan Mr Davies i weithredu heb gefnogaeth holl aelodau'r grŵp.
Esboniodd y Barnwr Jonathan Russen QC na fyddai'n ymyrryd ym mhroses ddisgyblu'r blaid.
Fe wrthododd y Ceidwadwyr Cymreig a gwneud sylw yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2020