AC yn parhau wedi'i wahardd o'i blaid

  • Cyhoeddwyd
Nick Ramsay
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nick Ramsay ei ethol i'r cynulliad yn 2007

Mae aelod blaenllaw o'r Cynulliad gafodd ei aresio ar Ddydd Calan ond ei ryddhau'n ddi-gyhuddiad yn parhau wedi wahardd gan y Ceidwadwyr tra bod y blaid yn ymchwilio.

Mae'n debyg bod Nick Ramsay yn derbyn cyngor cyfreithiol am achos ei arestio.

Dywed ffynhonellau o fewn y blaid fod nifer o achlysuron pan roedd ei ymddygiad wedi iddo yfed wedi arwain at gwynion.

Mae ei gyfeillion yn gwadu'r awgrym ei fod wedi derbyn cyngor am honiadau'n ymwneud ag alcohol, ac yn dweud y gall ei waharddiad o'r blaid fod yn agored i gael ei herio'n gyfreithiol.

Mae ei gyfeillion hefyd wedi ei amddiffyn gan awgrymu ei fod yn dioddef o achos ymgyrch yn ei erbyn gan rai aelodau o gangen ei blaid leol yn Sir Fynwy.

Ond gwadu hyn mae Nick Hackett-Pain, cadeirydd y blaid y lleol.

Ymchwiliad

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig fod "ymchwiliad yn parhau". Ni wnaeth y blaid esbonio beth oedd natur yr ymchwiliad yma.

Mr Ramsay yw llefarydd mainc flaen y ceidwadwyr a chadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Cafodd ei wahardd o'r blaid a grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd wedi iddo gael ei arestio.

Cafodd ei ryddhau'n ddi-gyhuddiad gan Heddlu Gwent, ond fe mae ei waharddiad o'r blaid Geidwadol a grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd yn parhau.

Nid ydyw wedi ei weld yn y Cynulliad ers iddo gael ei ryddhau. Mae ei gyd AC, y chwip Ceidwadol Darren Millar, wedi cymryd ei le ymhob cyfarfod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eleni.

Dywedodd un AC wrth BBC Cymru fod trafodaethau gyda Mr Ramsay heb ddatblygu ymhellach ac nad oedd ganddyn nhw "unrhyw syniad" pa bryd 'roedd disgwyl iddo ddychwelyd i'r Cynulliad.

Cwynion

Mae BBC Cymru hefyd yn ymwybodol fod cwynion wedi eu gwneud gan aelodau ei blaid leol ynglŷn ag araith gan Mr Ramsay mewn cinio i aelodau Cymdeithas Geidwadol Mynwy yn 2018.

Yn ôl ffynonellau, cafodd y cwynion eu gwneud i Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad ynglŷn â sylw "amhriodol" honedig.

Fe wnaeth un person awgrymu fod Mr Ramsay wedi cael "ychydig yn fwy i yfed nag y dylai".

Mae BBC Cymru wedi clywed fod y Comisiynydd wedi penderfynu nad oedd Mr Ramsay wedi torri rheolau ymddygiad.

Gwrthododd Swyddfa'r Comisiynydd wneud unrhyw sylw.

Ond yn ôl ffrindiau Nick Ramsay dyw nifer o'r honiadau ddim yn newydd ac yn rhan o ymgyrch yn ei erbyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Nick Ramsay heb fynychu'r Cynulliad Cenedlaethol ers cael ei arestio ar 1 Ionawr

'Ymgyrch bardduo'

"Mae yna aleodau o'r blaid leol sydd wedi bod yn bwlio mewn ymgais i ddychryn Nick a'i deulu ers peth amser. Mae'r blaid yn ymwybodol o hyn.

"Gobiethio gall y blaid fynd i'r afael â hyn a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen a'r Nick a'i deulu.

"Maen nhw wedi bod trwy amser anodd - mae Nick mo'yn i bethau fynd nôl i normal."

Dywedodd ffrind arall: "Rwyf wedi bod yng nghwmi Nick a'i wraig ar sawl achlysur, dwi heb weld tystiolaeth ei fod yn goryfed, na bod ganddo broblemau yfed."

Gwadu fod yna unrhyw ymgyrch i bardduo wnaeth cadeirydd Cymdeithas Geidwadol Mynwy, Nick Hackett-Pain.

Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at Mr Ramsay gan "gynnig pa gymorth y gallwn".

Cafodd Mr Ramsay ei ethol yn AC Sir Fynwy yn 2007. Ym Mehefin 2014 roedd yn destun ymchwiliad gan Lywydd y Cynulliad, ar ôl honiad ei fod yn feddw yn y Senedd, honiad roedd ef yn ei wadu.

Yn 2012 fe fethodd fynychu pwyllgorau yr oedd yn eu cadeirio ar ddau achlysur ac yn 2011 cafodd ei wahardd o dafarn yn Sir Fynwy.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae Nick Ramsay yn parhau wedi ei wahardd.

"Mae ymchwiliad ar y gweill ac ni fyddwn yn gwneud sylw pellach."