Teyrnged teulu i ddyn fu farw wedi gwrthdrawiad Y Barri
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 33 oed a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg fore Llun wedi cael ei ddisgrifio fel "calon ac enaid ei deulu".
Bu farw Grant Kerton yn dilyn gwrthdrawiad yn cynnwys un cerbyd ar Ffordd Gyswllt Dociau'r Barri ychydig ar ôl 04:00 ar 3 Chwefror.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod dau ddyn, 26 a 25 oed, a gafodd eu harestio yn safle'r gwrthdrawiad, wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.
Mae'r llu'n parhau i apelio am wybodaeth all helpu eu hymholiadau.
Mewn teyrnged ar ran teulu Mr Kerton, cafodd y tad i fab 10 oed a beiciwr modur brwd ei ddisgrifio fel dyn "oedd wastad yn gwenu ac yn tynnu coes" ac a fyddai'n "gwneud unrhyw beth i unrhyw un".
"Roedd Grant, neu Pants fel roedd pawb yn ei 'nabod, yn llawn bywyd ac roedd pawb yn ei garu," medd datganiad y teulu.
"Roedd Grant wastad yn byw bywyd i'r eithaf, ac â gwên o hyd ar ei wyneb yn barod i wneud pawb chwerthin... byddan ni'n anwylo'r holl achlysuron gwych wnaethon ni rannu gydag e."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2020