Angen pwerau rheilffyrdd i 'leihau pryderon'

  • Cyhoeddwyd
Ken Skates
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ken Skates wedi galw i bwerau datganoli dros rheilffyrdd gael ei ehangu i Llywodraeth Cymru

Byddai gwneud Llywodraeth Cymru yn hollol gyfrifol am reilffyrdd yn "lleihau rhai o bryderon" symudiad annibyniaeth Cymru, yn ôl gweinidog yr economi.

Mewn llythyr i ASau, rhybuddiodd Ken Skates, AS Llafur, Llywodraeth y DU yn erbyn rhoi "llai o bwerau datganoli" i Gymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU.

Ond dywedodd arweinydd Plaid Brexit yn y Cynulliad, Mark Reckless, bod e'n "afresymol" i ddefnyddio symudiad annibyniaeth Cymru i "wthio" Llywodraeth y DU.

Wrth ymateb i Mr Reckless, dywedodd Prif Weinidog Cymru bod ei lywodraeth "wastad yn sefyll lan" am ddiddordebau Cymru.

Yn y llythyr dywedodd Mr Skates: "Mae gennym ni gynllun eglur i ddarparu mesurau eraill datganoli, mae gennym ni gefnogaeth ddigynsail ar draws y pleidiau ac mae gennym weledigaeth uchelgeisiol a realistig bydd yn atgyweirio'r degawdau o ddiffyg buddsoddiad yn ein rheilffyrdd.

"Bydden ni'n ystyried unrhyw ganlyniad sy'n arwain at lai o bwerau datganoli yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU yn golled".

Anghytunodd Mr Reckless gyda'r hyn ddywedodd Mr Skates yn y llythyr.

Yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog yn y Senedd, dywedodd Mr Reckless: "Rydyn ni'n cael ein hatgoffa heddiw bod cefnogaeth o gael gwared â'r lle yma'n fwy na'r gefnogaeth am annibyniaeth".

"Er hyn mae'ch gweinidog Ken Skates newydd ysgrifennu i aelodau seneddol i ddweud wrthyn nhw i newid y gyfundrefn datganoli ar gyfer rheilffyrdd, 'er mwyn ateb pryderon ymysg symudiadau annibyniaeth Cymru a'r Alban, sy'n tyfu'.

"Mae'n afresymol i wthio Llywodraeth y DU fel petai chi'n ymateb i Nicola Sturgeon yng Nghaerdydd."

Mewn ymateb, dywedodd Mr Drakeford: "Bydd dim byd yn atal ni rhag gwneud yn siŵr, pan rydym yn credu bod rhywbeth o fudd i Gymru, boed hynny'n cynhyrchu ceir neu sut mae system rheilffyrdd Cymru yn cael ei drefnu ar draws y DU, byddwn yn gwneud ein swydd."

Ychwanegodd bod y Senedd yna "i gynrychioli safbwyntiau pobl yng Nghymru, a rhaid i ni wneud hynny heb ofn o gael ein herio gan eraill."