Colli Dad a rhedeg i dorri record byd

  • Cyhoeddwyd
Menna EvansFfynhonnell y llun, Menna Evans
Disgrifiad o’r llun,

Wedi cyrraedd y terfyn o'r diwedd!

Er mai dim ond dwy flynedd a hanner yn ôl y dechreuodd Menna Evans o Lansadwrn, Sir Gâr redeg, mae hi newydd dorri record byd drwy redeg o dop i waelod Seland Newydd.

Mae hi wedi rhedeg y 1,300 milltir o Cape Reinga ym mhen gogleddol Ynys y Gogledd, i'r de eithaf yn Bluff mewn 36 diwrnod - gan chwalu'r record blaenorol gan fenyw, sef 52 diwrnod a 15 awr.

Llongyfarchiadau mawr iddi!

Ffynhonnell y llun, Menna Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cymru Fyw air gyda Menna Evans hi tra roedd hi ar y daith

Beth sydd yn cymell rhywun i ymgymryd â her o'r fath?

"'Nes i ond dechrau rhedeg dwy flynedd a hanner yn ôl, ac yn ystod haf 2018, 'nes i lwyddo i redeg hyd Prydain - pellter o 1,050 milltir o John O'Groats i Land's End (JOGLE) gan redeg 37 marathon ultra mewn dim ond 41 diwrnod.

"Yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr her yna oedd fy nhad, a fu farw ym mis Mawrth 2017. Dyna pryd 'nes i ddarganfod fy angerdd tuag at redeg, 'naeth nid yn unig fy helpu drwy'r broses alaru, ond hefyd i gadw balans yn fy mywyd.

"Rydw i wedi diodde' o iselder yn y gorffennol, a dwi'n falch o allu dweud fod rhedeg wedi fy helpu i drwyddo. Dwi dal i ddiodde' gyda phyliau o or-bryder, ond mae rhedeg yn fy helpu i gadw balans, yn pylu'r white noise ac yn fy nghaniatáu i ymlacio a meddwl.

"Y siglo rhythmig, sŵn taro'r traed ar y llwybrau, bod yn yr awyr agored a mwynhau tirweddau prydferth - mae'n fy helpu i deimlo'n rhydd!

Ffynhonnell y llun, Menna Evans
Disgrifiad o’r llun,

Menna yn dathlu cyrraedd Land's End ar ôl ei siwrne hir o John O'Groats yn 2018

"Yn ystod wythnos olaf JOGLE, yn cael amser wrth fy modd, 'nes i benderfynu mod i angen gosod her arall i mi fy hun - un hyd yn oed mwy y tro yma!

"Dyna pan 'nes i feddwl am Seland Newydd, i redeg hyd cyfan y ddwy ynys. O'n i wedi ymweld ychydig o weithiau, ac eisoes yn gwybod pa mor anhygoel oedd y wlad, felly roedd yn benderfyniad hawdd i'w wneud."

Felly ers 1 Ionawr 2020 mae Menna wedi bod yn rhedeg tua 35 milltir y dydd, bob dydd, er mwyn ceisio torri record byd.

Mae hi'n codi arian i ddwy elusen iechyd meddwl - Mind yn y DU, a Save the Brave yn Seland Newydd. Mae hi hefyd yn rhedeg er cof am ei chefnder, Iwan Davies, fu'n dioddef problemau iechyd meddwl, a gymerodd ei fywyd ei hun yn 2018.

Ffynhonnell y llun, Menna Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Seland Newydd yn hir...

Nid ar chwarae bach mae rhywun yn rhedeg y pellter yma, felly sut mae mynd ati i baratoi at daith mor heriol?

"Cyn yr her, ro'n i'n hyfforddi chwe diwrnod yr wythnos. Roedd hyn yn golygu dau run hir ar ôl ei gilydd neu un run hir iawn, sesiwn cyflymder gyda'r Swansea Harriers, hyfforddiant cylchedau, ioga, a rhedeg pryd bynnag o'n i'n gallu ei ffitio i mewn rhwng mynd â'r mab i ac o'r ysgol, a gwaith.

"Roedd hi'n bwysig i gael fy nghorff i arfer gyda beth roedd am fynd drwyddo, a threulio amser hir ar fy nhraed. Yn ffodus, mae byw yng nghanol bryniau Sir Gâr yn golygu nad ydw i byth yn rhy bell oddi wrth lwybrau a bryniau gwych!

"Mae hyfforddiant a deiet yn hanfodol tuag at atal anafiadau yn ystod y math yma o her. Yn ystod y run drwy'r DU y llynedd, dysgais i wrando ar fy nghorff, ac rydw i wedi dysgu bod mewn harmoni gyda beth allwn i fod angen ei wneud er mwyn dod â'r balans yn ôl.

"Er mor ystrydebol mae hyn yn swnio, mae'n achos o drin dy gorff fel peiriant - mae beth rwyt ti'n ei roi i mewn yn penderfynu sut ganlyniadau ti'n eu cael yn ôl."

Ffynhonnell y llun, Menna Evans
Disgrifiad o’r llun,

Teg edrych tua Bluff... Menna yn Cape Reinga ar ddechrau ei thaith

Mae'n rhaid cadw at amserlen er mwyn sicrhau dy fod yn cyrraedd y nod a thorri'r record. Sut beth oedd dy ddiwrnod di, wrth i ti redeg bob cymal?

"Fel arfer, dwi'n codi am 6am a theithio i fan cychwyn y cymal nesa', a dwi'n rhedeg o tua 7am tan 4/4.30pm, gyda hanner awr i ginio.

"Os yw hi'n boeth iawn, mae'r tîm cefnogi yn cyfarfod â fi'n amlach er mwyn gwneud yn siŵr mod i ddim yn gor-flino oherwydd y gwres. Mae pob diwrnod o'r her yn gwbl unigryw, a dwi byth yn gwybod beth sydd o fy mlaen.

"Gan mod i wedi bod yn hyfforddi yn y mynyddoedd adre', dydi tirwedd mynyddog Ynys y De ddim yn fy mhoeni i, ond beth sy'n fy ofni ydi'r rhannau prysuraf o'r priffyrdd, yn enwedig i ac o drefi prysur a llwybrau lori poblogaidd.

"Dwi'n aml yn gorfod stopio, neidio i glawdd a dal fy het rhag iddo gael ei chwythu i ffwrdd bob tro mae tryc yn gwibio heibio!"

Ffynhonnell y llun, Menna Evans
Disgrifiad o’r llun,

Gan ei bod hi'n ystod yr haf yn Seland Newydd, mae hi'n gallu mynd yn boeth

Mae cerbyd cefnogi wedi ei dilyn bob milltir o'r daith yn cael ei yrru gan John, cyfaill i'r teulu. Yn ystod cymal cyntaf ei thaith, ar Ynys y Gogledd, roedd ganddi hefyd gefnogaeth ei Mam, a'i mab Llew, sy'n 6 oed.

"Llewelyn sydd yn fy ysgogi ac yn fy nghael i drwy hyn - dwi eisiau ei ysbrydoli i gymryd pob cyfle a byw bywyd i'r eithaf.

"Ac mae'r gefnogaeth a'r anogaeth dwi wedi ei gael ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn anhygoel, a dydw i ddim wedi teimlo'n unig, er mod i'n treulio hyd at wyth awr yn rhedeg ar fy mhen fy hun ar y ffordd!"

Ffynhonnell y llun, Menna Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llew wedi dod gyda'i fam i'w chefnogi

A beth nesaf ar ôl y daith epig...?

"Dwi'n edrych 'mlaen i eistedd yn llonydd am ychydig, a rhoi pensil ar bapur i ysgrifennu am fy mhrofiadau dros y blynyddoedd diwethaf. Ac mae fy nheulu yn haeddu ychydig mwy o fy sylw i.

"Dwi hefyd wedi cael fy newis fel llysgennad Beautifully Brutal, felly ar ôl Seland Newydd, dwi'n edrych mlaen at gystadlu yn y rasys Pilgrims 60 a nifer o rasys gwych eraill sy'n cael eu trefnu gan y cwmni yn ardal Pen Llŷn.

"Heblaw am hynny, does yna ddim byd wedi cael ei drefnu... eto."

Hefyd o ddiddordeb: