Dyn yn wynebu cyhuddiad o lofruddio Michael O'Leary
- Cyhoeddwyd

Fe gadarnhaodd Andrew Jones ei enw a'i gyfeiriad yn y gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe
Mae dyn wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ar gyhuddiad o lofruddio Michael O'Leary, 55 oed o Nantgaredig.
Does neb wedi gweld Mr O'Leary ers dydd Llun 27 Ionawr.
Fe ymddangosodd Andrew Jones, 52 oed o Gaerfyrddin, yn y llys fore dydd Mercher ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa.
Fe fydd yn dychwelyd i'r llys ar gyfer y gwrandawiad nesaf ar 15 Mai.
Roedd teuluoedd Michael O'Leary ac Andrew Jones yn bresennol yn y gwrandawiad.

Mae Michael O'Leary o Nantgaredig wedi bod ar goll ers diwedd Ionawr
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2020