Amodau cynllunio am 'ddifetha' busnes bach yn Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Mae busnes sy'n tyfu a gwerthu llysiau yn Aberteifi yn pryderu y gallai amodau cynllunio ddifetha cynlluniau i ehangu'r cwmni.
Mae Glebelands, rhwng Aberteifi a Llandudoch, wedi cyflwyno cais i lacio amodau cynllunio, sy'n galw am godi clawdd 3m o uchder yng nghanol cae er mwyn cuddio twneli polythen a gweithgaredd ar y safle.
Mae'r cynnyrch yn cael ei werthu i gwsmeriaid lleol o siop fechan ar yr un safle, ac mae'r busnes hefyd wedi cyflwyno cais i ehangu'r siop.
Deallir bod un o gymdogion Glebelands wedi cyflwyno cais yn gwrthwynebu'r ddau gais yn gryf.
Yn ôl y cymdogion hynny, dyw'r busnes ddim wedi cydymffurfio ag amodau cynllunio blaenorol ac mae'r gweithgaredd ar y safle wedi "achosi llifogydd" sydd wedi difrodi wal.
Yn ôl y perchennog, Adam York, byddai'n gwneud mwy o synnwyr i osod y clawdd ar y ffin gyda'r cymdogion, ac mae'n dweud hefyd fod y broses gynllunio wedi bod yn rhy llawdrwm.
"Ry'n ni wedi gorfod cyflwyno nifer o geisiadau cynllunio a chyflogi ymgynghorwyr," meddai.
"Dyw'r gost a'r amserlen ddim yn cyfateb i'r weithgaredd yma - mae'r broses gynllunio yn teimlo fel petasem ni'n datblygu ystâd o dai."
"Mae'n amhosib cwrdd â'r gofynion presennol. Ei gartref naturiol [y clawdd] yw ar y ffin gyda'r cymdogion.
"Mi fyddai gosod y clawdd wrth y twnnel yn golygu nad yw'n bosib ei ddefnyddio [y twnnel]."
Mae'r busnes wedi cael cefnogaeth Cyngor Tref Aberteifi a Maer y Dref, Shan Williams.
"Mae'n siomedig iawn, iawn y ffordd 'ma'r bobl yma wedi cael eu trin," meddai Ms Williams.
"Roedd pawb ond un ar y cyngor tref yn gefnogol iawn i gael gwared ar yr amod cynllunio.
"Licen i weld Ceredigion yn cefnogi busnesau bach fel hyn. Dyle fod siopau bach fel hyn ledled Ceredigion a Chymru.
"Sai'n gallu deall pam fod gwrthwynebiad o un tŷ wedi cael cymaint o effaith ar y broses yma."
Mae'r awdurdod cynllunio wedi cael nifer o lythyrau o gefnogaeth gan bobl leol.
Un sy'n cefnogi brwydr gynllunio Glebelands ydy'r ffermwr lleol, Lyn Evans, sy'n prynu cynnyrch yn y siop.
"Mae'n hwylus iawn i gael. S'dim pecynnu. Dim costau cludo," meddai.
"Maen nhw wedi gwneud gwaith ffantastig i drawsnewid cae borfa rwff i gynhyrchu miloedd o brydiau bwyd bob blwyddyn."
Gwadu 'gosod rhwystrau'
Mae Cyngor Ceredigion yn gwrthod y feirniadaeth, gan ddweud "nad oedd yr awdurdod wedi gosod rhwystrau i fusnesau".
Mae'n rhaid ystyried yr "effaith ar y tirlun a chymdogion" pan mae yna fusnes newydd yng nghefn gwlad, meddai'r awdurdod.
Ychwanegodd ei bod wedi ceisio creu "sefyllfa dderbyniol" yn lle gosod rhwystrau.
Fe fydd y cyngor yn ystyried y ddau gais cynllunio yn fuan.