Gwrthwynebiad i archfarchnad Co-op ger Castell Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae 'na wrthwynebiad yn nhref Conwy i gynllun i godi archfarchnad Co-op newydd ar gyrion y dref.
Yn ôl Cyngor Tref Conwy byddai'r datblygiad yn cael effaith negyddol ar yr olygfa o'r castell o gyfeiriad Gyffin.
Mae'r castell yn denu degau o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn safle treftadaeth y byd UNESCO.
Mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno i Gyngor Sir Conwy i godi archfarchnad ar ddarn o dir lle'r oedd garej yn arfer sefyll, ar y ffordd allan o Gonwy i gyfeiriad Gyffin.
'Dim arolwg bywyd gwyllt'
Dywedodd Bill Chapman, sy'n aelod o Gyngor Tref Conwy: "Mae'r cyngor tref yn erbyn hyn oherwydd y ffaith bod y safle yma yn agos iawn i hen waliau'r dref a'r castell, a hefyd 'da ni'n gwybod bod dim arolwg wedi ei wneud o fywyd gwyllt ar y safle.
"Pwynt arall yw bod hi'n reit beryglus i bobl sy'n cerdded.
"Maen nhw'n dod trwy'r twnnel 'na o dan y rheilffordd a trwy'r pyrth i mewn ac allan o'r dref, felly mae'n le peryglus hefyd.
"Byse'n biti codi adeilad hyll mor agos i'r castell."
Mae pobl leol yn dweud eu bod nhw'n gwrthwynebu'r datblygiad yn gryf.
Dywedodd Dewi Eurig Jones, sy'n ffermio ger Conwy: "Mae angen archfarchnad yng Nghonwy, ond fan hyn ydy'r lleoliad anghywir dwi'n meddwl.
"Y lle gora ydy mwy i'r gorllewin, yn ardal Morfa."
Partneriaeth Buddsoddi Llandudno sydd y tu ôl i gynlluniau'r archfarchnad, ac er i BBC Cymru gysylltu gyda'u hasiant, Cwmni Cadnant, am ymateb, ni chafwyd un.
Mae disgwyl y bydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Conwy yn trafod y cais cynllunio yn y misoedd nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2017