Dyn o Gaerdydd mewn llys wedi'i gyhuddo o drywanu
- Cyhoeddwyd
Bydd dyn 21 oed o Gaerdydd yn ymddangos yn y llys ddydd Iau mewn cysylltiad ag achos o drywanu yn ardal Glan yr Afon y ddinas ddydd Gwener diwethaf.
Mae'r dyn, o ogledd Llandaf, wedi ei gyhuddo o anafu, ceisio lladrata a bod â chyllell yn ei feddiant.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod dioddefwr yr ymosodiad, dyn 38 oed, "yn gwella'n dda".
Fe gafodd ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei drywanu ar Stryd Smeaton am tua 07:40 ddydd Gwener, 31 Ionawr.
Cafodd yr heddlu hawl am gyfnod dros y penwythnos i stopio ac archwilio pobl mewn ardaloedd penodol o'r ddinas mewn ymateb i'r achos, ac ymosodiad arall yn ardal Trebiwt yn gynnar ddydd Sadwrn.
Mae'r heddlu wedi pwysleisio nad oes cysylltiad rhwng y ddau achos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2020