Apêl o'r newydd am gerddor o Abertawe sydd ar goll ers blwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Tapiwa MatuwiFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tapiwa Matuwi ei weld am y tro olaf yn ardal Marina Abertawe ar 7 Chwefror, 2019

Mae teulu cerddor o Abertawe wedi gwneud apêl o'r newydd i geisio dod o hyd iddo union flwyddyn ar ôl ei ddiflaniad.

Roedd Tapiwa Matuw yn 21 oed pan gafodd ei weld am y tro diwethaf ar gamera cylch cyfyng yn ardal Marina Abertawe tua 07:00 ar 7 Chwefror, 2019.

Roedd yr artist hip-hop wedi bod ar noson allan gyda ffrindiau yng nghlwb nos Fiction ar Stryd y Gwynt (Wind Street) yng nghanol y ddinas.

Mae ei deulu wedi bod yn sôn am y loes o geisio ymdopi yn emosiynol, ac maen nhw wedi cynnig gwobr ariannol am wybodaeth.

Er iddynt dalu am dditectif preifat, does dim gwybodaeth newydd wedi dod i law.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni Tapiwa Matuwi yn aeplio am wybodaeth

Roedd Tapiwa Matuwi - sy'n cael ei adnabod gan deulu a ffrindiau fel Tapi - yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae tua 5'6" o daldra gyda gwallt du. Pan gafodd ei weld diwethaf, roedd yn gwisgo het pêl-fas ddu gyda logo coch, siaced goch gyda 'Bieber' wedi'i ysgrifennu ar y cefn, a siwmper wen.

Roedd yn gwisgo jîns tywyll ac esgidiau high-top.

Dywedodd ei dad Munyaradzi Zvada: "Rydym yn gwybod fod rhywun yn rhywle â gwybodaeth am ein mab.

"Mae'n ofnadwy, allwch chi ddim disgrifio'r teimlad... mae'n un o'r cyfnodau anoddach yn ein bywydau ac mae'n anodd ofnadwy."