Eglwysi trefi glan môr yn agor eu drysau i'r digartref

  • Cyhoeddwyd
DigartrefeddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fel rhan o'r cynllun bydd eglwysi yn cynnig llety a brecwast i 10 o bobl ddigartref ar y tro

Mae nifer cynyddol o bobl ddigartref mewn trefi glan môr gogledd Cymru yn cael eu helpu trwy gynllun newydd.

Bydd pum eglwys yn Llandudno a Bae Colwyn yn agor eu drysau un noson yr wythnos, gan roi llety a brecwast i 10 o bobl ar y tro.

Tra bod digartrefedd yn aml yn broblem sy'n cael ei chysylltu â dinasoedd, mae gwirfoddolwyr yn credu bod cynnydd wedi bod mewn trefi arfordirol hefyd.

Mae 150 o bobl wedi derbyn hyfforddiant i helpu yn ystod y cynllun chwe wythnos.

Bydd pobl sy'n cysgu ar y stryd, sydd wedi'u cyfeirio at y cynllun gan Gyngor Conwy, yn cael eu cludo i'r eglwysi mewn bws mini o wahanol ardaloedd.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bae Colwyn wedi gweld cynnydd mewn digartrefedd, ond mae diffyg cyfleusterau i'w helpu

"Tra bod cefnogaeth i'r rheiny sy'n ddigartref yn cael ei anelu ar ddinasoedd a threfi mawr, mae trefi glan môr fel Llandudno a Bae Colwyn yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd," meddai'r Parchedig Mike Harrison.

"Mae 'na gefnogaeth i bobl ddigartref yn ystod y dydd, ond does dim cyfleusterau addas iddyn nhw gyda'r nos."

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn amcangyfrif bod 405 o bobl yng Nghymru yn cysgu ar y stryd.

Tra bo'r niferoedd mwyaf mewn siroedd dinesig fel Caerdydd (92), roedd nifer sylweddol hefyd mewn ardaloedd ar hyd arfordir y gogledd, fel Conwy (21) a Gwynedd (22).