Y Gynghrair Genedlaethol: Chesterfield 3-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Colli wnaeth Wrecsam yn y munudau olaf yn y Gynghrair Genedlaethol ddydd Sadwrn oddi cartref yn erbyn Chesterfield.
Fe lwyddodd Wrecsam i gael y gôl gyntaf wedi i Will Evans, chwaraewr Chesterfield, sgorio i'w rhwyd ei hun ar ôl 21 munud.
O fewn pedair munud fe wnaeth Tom Denton unioni'r sgôr a chyfartal oedd hi ar yr egwyl.
Ar ôl 68 munud roedd Wrecsam ar y blaen eto wedi gôl gan Jordan Ponticelli ond pharodd yr oruchafiaeth ddim yn hir gan i Liam Mandeville unioni'r sgôr.
Ond er gwaethaf sawl ymdrech gan y Dreigiau, Curtis Nelson o Chesterfield a sgoriodd a hynny yn ystod yr amser ychwanegol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2019